Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cwynion diogelu data

Trosowlg

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo i drin gwybodaeth bersonol yn gyfreithlon, yn deg ac yn dryloyw. Os ydych yn anfodlon ar y ffordd rydym wedi casglu, defnyddio, rhannu neu reoli eich data personol, mae gennych hawl i wneud cwyn diogelu data gyda ni.

Pryd y gallwch wneud cwyn diogelu data

Gallwch wneud cwyn os ydych yn credu nad ydym wedi trin eich gwybodaeth bersonol yn briodol. Gall hyn gynnwys sefyllfaoedd lle rydych yn credu ein bod wedi:

  • methu ymateb yn briodol i gais am eich gwybodaeth bersonol
  • cadw gwybodaeth anghywir neu anghyflawn amdanoch
  • datgelu eich gwybodaeth yn anghywir
  • cadw eich gwybodaeth yn hirach nag sydd ei hangen
  • defnyddio eich gwybodaeth at ddiben gwahanol i’r un y’i casglwyd ar ei chyfer
  • methu cadw eich gwybodaeth yn ddiogel
  • methu cynnal eich hawliau diogelu data

Mae gan unigolion hawl i gwyno’n uniongyrchol i sefydliad os ydynt yn credu nad yw eu gwybodaeth bersonol wedi’i thrin yn unol â chyfraith diogelu data.

Sut i wneud cwyn diogelu data

Dylech godi eich pryder gyda’r Cyngor yn y lle cyntaf fel bod gennym gyfle i ymchwilio i’r mater a’i ddatrys.

Gallwch wneud hyn drwy:

  • lenwi ein ffurflen gwyno ar-lein
  • e-bostio dpo@npt.gov.uk
  • ysgrifennu at -
    Swyddog Diogelu Data
    Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
    Y Ganolfan Ddinesig
    Port Talbot
    SA13 1PJ

Wrth gysylltu â ni, nodwch os gwelwch yn dda:

  • eich enw a’ch manylion cyswllt
  • disgrifiad clir o’ch pryder
  • dyddiadau perthnasol ac unrhyw wybodaeth gefnogol
  • unrhyw rifau cyfeirnod (os yn berthnasol)

Bydd darparu digon o fanylion yn ein helpu i ymchwilio i’ch cwyn yn drylwyr ac ymateb cyn gynted â phosibl.

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym

Yn unol â’n rhwymedigaethau cyfreithiol, byddwn yn:

  • cydnabod derbyn eich cwyn o fewn 30 diwrnod
  • ymchwilio i’ch cwyn heb oedi diangen
  • eich hysbysu am gynnydd lle bo’n briodol
  • darparu canlyniad ysgrifenedig clir, gan gynnwys unrhyw gamau a gymerwyd

Os ydych yn parhau’n anfodlon

Os ydych yn anfodlon ar ein hymateb, neu’n credu nad ydym wedi trin eich cwyn yn briodol, mae gennych hawl i gyfeirio eich pryderon at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef rheoleiddiwr annibynnol y DU ar gyfer diogelu data.

Gallwch gysylltu â’r ICO:

  • drwy eu gwefan
  • dros y ffôn - 0303 123 1113
  • drwy’r post -
    Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
    Wycliffe House
    Water Lane
    Wilmslow
    Cheshire
    SK9 5AF

Disgwylir i unigolion gysylltu â’r sefydliad yn gyntaf cyn gwneud cwyn i’r ICO.

Gwybodaeth bellach

Mae cwyn diogelu data yn ymwneud â’r ffordd y mae data personol wedi’i drin ac mae’n wahanol i gwynion gwasanaeth cyffredinol. Bydd codi pryder yn brydlon yn ein helpu i ddatrys materion yn effeithiol ac i wella ein gwasanaeth.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Cwynion Diogelu Data.

Rhannu eich Adborth