Mae’r Gymraeg yn fwy na dim ond iaith, mae’n rhan o’n bodolaeth, ein treftadaeth a’n diwylliant, ac mae’n rhywbeth y dylem fod yn falch ohoni ac yn ei dathlu.
Mae wedi’i phlethu i wead ein bywydau – wedi’r cyfan, gwreiddiwyd llawer iawn o’n henwau lleoedd, ein henwau ninnau a’n dywediadau yn gadarn yn y Gymraeg.
Mae ffocws ein hymgyrch Dewch i Sgwrsio - Let’s Talk ar gynyddu pa mor weladwy yw’r Gymraeg ar draws ardal Castell-nedd Port Talbot, gan gefnogi amcan ein Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a’r nifer o siaradwyr Cymraeg yn ein bwrdeistref sirol.
Ar y tudalennau hyn fe welwch ddolenni i adnoddau, digwyddiadau a chyfleoedd i ddysgu siarad Cymraeg, gwella eich sgiliau yn yr iaith, codi eich hyder a chynyddu eich defnydd o’r Gymraeg.
Dewch bawb… Dewch i Sgwrsio
"Mae’r Gymraeg yn deillio o’r pridd hwn, yr ynys hon, a hen iaith gwŷr Prydain; ac mae’r Gymraeg yn hardd.”
JRR Tolkien