Craffu
Cyflwynwyd pwyllgorau craffu i sicrhau bod nifer mwy o Gynghorwyr yn ymgymryd â dylanwadu ar bolisïau a gwella gwasanaethau'r cyngor, gan ddarparu gwiriadau a chydbwysedd i'r penderfyniadau a wneir gan y Cabinet.
Mae'r Cyfansoddiad yn amlinellu pedair prif rôl craffu. Sef:
- Cyn Craffu (mae hyn yn cynnwys ystyried penderfyniadau i'w gwneud gan y Cabinet a Byrddau'r Cabinet cyn iddynt gael eu gwneud)
- Perfformiad (Mae hyn yn cynnwys monitro sut y mae gwasanaethau'n perfformio).
- Polisi a Phartneriaeth (mae hyn yn cynnwys effaith polisïau a galw partneriaid y Cyngor i gyfrif).
- Ar ôl Craffu (mae hyn yn cynnwys ystyried effaith penderfyniadau wedi iddynt gael eu gwneud).