Pwyllgorau Craffu
Mae pum Pwyllgor Craffu yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Mae gan bob Pwyllgorau Craffu gylch gwaith penodol y maent yn gweithio oddi mewn iddo a dangosir hyn yn eu cylch gorchwyl. Mae'r Pwyllgorau'n cynnwys Cadeirydd, Is-gadeirydd ac Aelodau Pwyllgor.
I gael rhagor o wybodaeth am waith Pwyllgor Craffu penodol a'i aelodaeth, dewiswch ef o'r rhestr isod:
Mae pob pwyllgor craffu yn cynnwys hyd at 15 o gynghorwyr o bleidiau gwleidyddol o fewn y cyngor, sy'n adlewyrchu cyfansoddiad gwleidyddol cyffredinol y cyngor. Mae'r Pwyllgor Craffu Addysg hefyd yn cynnwys rhiant-lywodraethwyr cyfetholedig a dau gynrychiolydd cyfetholedig o'r Eglwys yng Nghymru a'r Esgobaethau Catholig.
Mae'r pwyllgorau'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau atebolrwydd, gonestrwydd a thryloywder, gan roi pedwar egwyddor craffu da y Ganolfan Craffu Cyhoeddus ar waith, sef:
- Mae'n darparu her 'cyfaill beirniadol' i'r rheini sy'n llunio polisïau gweithredol ac yn gwneud penderfyniadau
- Mae'n galluogi i lais a phryderon y cyhoedd gael eu clywed
- Cyflawnir y gwaith gan 'Lywodraethwyr Annibynnol' sy'n arwain ac yn ymgymryd â'r rôl craffu.
- Mae'n hyrwyddo gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus