Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

  • Y Cyngor yn Lansio Cronfa er mwyn Helpu Sefydliadau Cymunedol i Sefydlu Mannau Cynnes
    23 Mai 2024

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwahodd sefydliadau cymunedol i wneud cais am grant untro o £1500 er mwyn helpu i sefydlu Mannau Croeso Cynnes ar gyfer trigolion sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â chostau byw o bosibl neu sydd mewn perygl o deimlo'n ynysig.

  • Hysbysiad Cau Ffyrdd – Cwmafan
    21 Mai 2024

    Bydd Depot Road yng Nghwmafan ar gau i'r ddau gyfeiriad am bythefnos yn dechrau ddydd Mawrth 28 Mai. Hefyd, bydd mynediad cyfyngedig i ran ar wahân o Depot Road a Rhes Tŷ'r Owen yn ystod y cyfnod hwn. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn gwneud gwaith hanfodol i gynnal a chadw'r ffyrdd a rhoi wyneb newydd arnynt.

  • Grymuso Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot: Rhaglen Gorwelion yn Arloesi Llwybrau at Gyflogaeth
    21 Mai 2024

    Mae Horizons, rhan o Wasanaeth Ieuenctid Cyflogadwyedd CNPT yn helpu pobl 16-18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant i ennill sgiliau, profiadau a chymwysterau newydd. Gan weithio mewn partneriaeth â phrosiect ‘Down To Earth’, fe drefnodd Gorwelion gwrs yn ddiweddar oedd yn canolbwyntio ar weld pobl ifanc yn datblygu hyder, sgiliau cyfathrebu a sgiliau gwaith a all eu helpu i fynd i mewn i swydd.

  • Digwyddiad Seilwaith Digidol yn Arwain gyda buddsoddiad o £175+ Miliwn i'r Rhanbarth.
    20 Mai 2024

    Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cynnal digwyddiad newydd i arddangos arloesiadau, cyfleoedd a’r buddion digidol sydd ar fin rhoi hwb o £318 miliwn i’r economi leol.

  • Strategaeth Dreftadaeth newydd y Cyngor yn gwarchod a hybu asedau hanesyddol a naturiol unigryw’r ardal
    17 Mai 2024

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi mabwysiadu Strategaeth Dreftadaeth i sicrhau cadwraeth, gwarchodaeth a chynaliadwyedd ein hamgylchedd hanesyddol a naturiol cyfoethog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

  • Marchnad Dan Do Castell-nedd yn ymuno ag ymgyrch Love Your Local Market
    17 Mai 2024

    Mae Marchnad Dan Do Castell-nedd yn ymuno a mwy na 400 o farchnadoedd ledled y DU i ddathlu ‘Love Your Local Market’, sef ymgyrch pythefnos o hyd sy'n tynnu sylw at rôl bwysig marchnadoedd yng nghanol ein trefi.

  • Dod â hen gapel yn ôl i ddefnydd yng Nghwm-gwrach – gyda chefnogaeth Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU
    17 Mai 2024

    Bydd hen gapel gwag yn cael bywyd newydd, gan ddarparu gwasanaeth y mae mawr alw amdano gan y gymuned leol yng Nghwm-gwrach, diolch i grant oddi wrth Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU.

  • Ailethol Arweinydd i ymladd dros fwy o arian i dalu am wasanaethau cymunedol hanfodol
    16 Mai 2024

    MAE’R CYNGHORYDD Steve Hunt wedi addo parhau i ymgyrchu am gynnydd mewn arian ar gyfer cynghorau Cymru ar ôl cael ei ailbenodi’r Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot am y drydedd flwyddyn o’r bron.

  • Dros 400 o bobl ifanc Castell-nedd Port Talbot i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2024
    15 Mai 2024

    Ar ôl curo’r gystadleuaeth yn yr eisteddfodau cylch a rhanbarth, mae dros 400 o ddisgyblion ysgol o Gastell-nedd Port Talbot wrthi’n paratoi i gymryd rhan yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd – Maldwyn 2024.

  • Un o ofalwyr maeth Maethu Cymru Castell-nedd Port Talbot yn rhannu rysáit deuluol mewn llyfr coginio sy'n cael ei gefno
    15 Mai 2024

    Cyfrannodd Tracey Merchant rysáit ar gyfer ‘Gall pawb gynnig rhywbeth’, sef llyfr newydd sy'n llawn ryseitiau a hanesion am brofiadau o faethu a newidiodd fywydau gan ofalwyr a phobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Rhannu eich Adborth