Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

  • Cymeradwyo contract ar gyfer prosiect maes chwarae newydd mawr
    04 Tachwedd 2025

    Mae'r cwmni offer chwarae arbenigol Kompan wedi ennill y contract i ddarparu man chwarae newydd sbon ar gyfer Parc Vivian ym Mhort Talbot.

  • Gwasanaeth Hawliau Lles y Cyngor yn Helpu'r Trigolion Mwyaf Agored i Niwed i Gael £12m mewn Incwm Ychwanegol
    04 Tachwedd 2025

    Mae Gwasanaeth Hawliau Lles Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi helpu rhai o drigolion mwyaf agored i niwed a difreintiedig y fwrdeistref sirol i gael mwy na £12 miliwn mewn incwm ychwanegol yn ystod blwyddyn ariannol 2024/25.

  • Cyrch ar siop gan Safonau Masnach yn darganfod tybaco a fêps anghyfreithlon o dan gawell aderyn ac mewn ceudyllau cudd
    31 Hydref 2025

    Mae perchennog siop fêps ym Mhort Talbot wedi osgoi mynd i’r carchar o drwch blewyn, ond cafodd ei orchymyn i dalu dros £4,600 mewn costau i’r llys yn dilyn ymchwiliad gan swyddogion Safonau Masnach o Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

  • Help gyda chostau byw: cymorth ar gael yng Nghastell-nedd Port Talbot y gaeaf hwn
    30 Hydref 2025

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn atgoffa trigolion bod amrywiaeth eang o gymorth ar gael er mwyn helpu i leddfu pwysau ariannol y gaeaf hwn. P'un a ydych chi'n ei chael hi'n anodd talu biliau'r cartref, talu costau gofal plant, neu reoli cyllid, mae'r cyngor wrth law er mwyn helpu i sicrhau na fydd neb yn wynebu'r heriau hyn ar ei ben ei hun.

  • Gwasanaethau a Gorymdeithiau Sul y Cofio yng nghanol trefi Castell-nedd a Phort Talbot
    30 Hydref 2025

    Mae’r manylion terfynol wrthi’n cael eu trefnu ar gyfer cynnal gwasanaethau a gorymdeithiau Sul y Cofio ynghanol trefi Castell-nedd a Phort Talbot ddydd Sul, 9 Tachwedd, 2025.

  • Y cyngor yn penderfynu ailarchwilio prosiect Hyb Trafnidiaeth Castell-nedd ar ôl gwrando ar adborth
    29 Hydref 2025

    Bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ailasesu cwmpas a dyluniad Hyb Trafnidiaeth arfaethedig Castell-nedd ar ôl cael adborth yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus.

  • Mewn du a gwyn! Sut yr adroddodd papurau newyddion Castell-nedd Port Talbot am yr Ail Ryfel Byd
    28 Hydref 2025

    Y llynedd, wrth glirio eiddo’r diweddar Cliff Thomas o Don-mawr, darganfu aelodau’i deulu gasgliad o bapurau newydd lleol gan gynnwys rhifynnau oedd yn adrodd am ddigwyddiadau mawr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

  • Parc yn Cyrraedd yr Uchelfannau wrth i Faes Chwarae Antur Tyrau Gnoll Agor
    24 Hydref 2025

    Mae parc antur newydd sbon sy’n cynnwys nodweddion dringo ymysg brigau’r coed yn agor yfory yn lleoliad poblogaidd Parc Gwledig Gnoll, Castell-nedd.

  • Cyngor yn ennill gorchmynion cau yn erbyn pedair siop fêps yng Nghastell-nedd Port Talbot
    23 Hydref 2025

    Mae Tîm Safonau Masnach Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ennill pedwar gorchymyn cau yn erbyn siopau fêps sy’n masnachu yn y fwrdeistref sirol.

  • Michael Sheen a Jeff Wayne i serennu mewn Gala ar gyfer Canmlwyddiant Richard Burton sydd wedi gwerthu pob tocyn
    20 Hydref 2025

    Ar 14 Tachwedd, bydd dathliadau Canmlwyddiant Richard Burton yn dod i’w hanterth yn y Gala RB100 – gan groesawu teulu, cyfoedion a chefnogwyr Burton i’r Orendy ym Mharc Gwledig Margam ar gyfer noson o berfformio, cerddoriaeth ac adrodd straeon, sydd wedi gwerthu pob tocyn.

Rhannu eich Adborth