Swyddfa Gofrestru
Gwasanaethau ar gyfer holl ddigwyddiadau mawr bywyd
Mae ein tîm cyfeillgar yma i'ch helpu gyda:
- priodi neu wneud partneriaeth sifil
- cofrestru genedigaeth neu farwolaeth
- cael copi o dystysgrif geni, priodas, partneriaeth sifil neu farwolaeth
Rydym hefyd yn cynnig seremonïau arbennig fel:
- adnewyddu eich addunedau
- seremonïau enwi
- cofebau neu ddathliadau bywyd
Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi trwy adegau mawr bywyd.
Marwolaethau
I drefnu apwyntiad i gofrestru neu i drafod unrhyw fater yn ymwneud â marwolaeth ddiweddar, e-bostiwch registrars@npt.gov.uk neu ffoniwch 01639 760021.
Bydd gwaith papur yr angladd yn cael ei e-bostio’n uniongyrchol i’r asiantaethau perthnasol.
Genedigaethau
Mae apwyntiadau cofrestru genedigaethau ar gael i rieni babanod a anwyd yn ardal Castell-nedd Port Talbot. Trefnir apwyntiadau ar ôl i fanylion y cofrestriad gael eu casglu drwy alwad ffôn gyda'r cofrestrydd.
Gofynnwn i bob rhiant newydd roi enw mam i ni, dyddiad geni'r plentyn a rhif ffôn cyswllt i registrars@npt.gov.uk neu ffoniwch 01639 760021.
Hysbysiadau ar gyfer priodas/partneriaeth sifil
Gofynnwn i bob cwpl sydd angen rhoi rhybudd i e-bostio i ni, dyddiad y seremoni, y lleoliad, ynghyd ag enwau a rhif ffôn cyswllt neu ffoniwch 01639 760021.
Copi o dystysgrifau
Ar gyfer Genedigaethau, Marwolaethau, Priodasau, Partneriaethau Sifil a ddigwyddodd yn ardal Castell-nedd Port Talbot, dylech wneud cais ar-lein neu gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru dros y ffôn ar 01639 760021.
Ble mae'r swyddfa gofrestru?
Mae’r Swyddfa Gofrestru wedi ei leoli yn
- Heol Forster, Castell-nedd, SA11 3BN
- Ffôn: 01639 760021 / 760020
- E-bost: registrars@npt.gov.uk
I gofrestru genedigaeth, marwolaeth, priodas neu bartneriaeth sifil, bydd angen i chi wneud.
Oriau agor swyddfa
- Dydd Llun – Dydd Iau 9.30 yb i 4.30 yp
- Dydd Gwener 9.30 yb i 4.00 yp
Mae priodasau yn cael eu chynnal yn y Swyddfa Gofrestru:
6 diwrnod yr wythnos (dydd Llun i ddydd Sadwrn)
Mae priodasau yn cael eu chynnal yn adeiladau cymeradwy:
7 diwrnod yr wythnos (gan gynnwys gwyliau banc)
Cofnodion hanesyddol
Mae Gwasanaeth Cofnodion Hanesyddol ar gael ar gyfer y mater o Tystysgrifau Hanes Teulu. Mae ein cofnodion yn dyddio o 1837 i’r bresennol.
Gwasanaeth Cofnodion Hanesyddol hefyd ar gael gan y Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg