Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwybodaeth y gall fod angen i chi ei darparu

Yn ystod eich apwyntiad

Os yw ar gael, mae angen i ni gael gwybodaeth benodol am y person a fu farw. Mae hyn yn cynnwys eu:

  • enw llawn, gan gynnwys unrhyw enwau hysbys eraill
  • tystysgrifau priodas neu bartneriaeth sifil
  • dyddiad a man geni
  • galwedigaeth
  • cyfeiriad
  • enw llawn priod neu bartner sifil a galwedigaeth (os yw’n berthnasol)

Mae angen i ni wybod hefyd:

  • pryd a ble y buont farw
  • enw’r trefnydd angladdau sy’n cynnal yr angladd
  • a ydynt yn cael eu claddu neu eu hamlosgi

Cywiriadau i gofnodion marwolaethau

Gwiriwch fod yr holl wybodaeth yn gywir cyn llofnodi'r gofrestr. Bydd gwallau a ganfyddir ar ôl cofrestru angen eu cywiro'n swyddogol a bydd yn rhaid talu ffi statudol am hyn.