Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Trefnwch apwyntiad

Dylech gofrestru marwolaeth yn y Fwrdeistref y digwyddodd. Bydd hyn yn osgoi oedi wrth dderbyn y dystysgrif marwolaeth.

Cofrestru marwolaeth yn Gymraeg a Saesneg

Gallwch gofrestru marwolaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg, ond nid yn Gymraeg yn unig. Rhaid i’r sawl sy’n cofrestru’r farwolaeth fod yn siaradwr Cymraeg.

Rhowch wybod i'r swyddfa gofrestru i sicrhau bod cofrestrydd sy'n siarad Cymraeg ar gael.

Claddu 24 awr

Rydym yn cynnig gwasanaeth ar alwad ar gyfer marwolaethau sydd angen eu claddu o fewn 24 awr.

Bydd angen i chi gysylltu â'r Trefnwr Angladdau i wneud trefniadau.

Trefnwch apwyntiad

Rhaid i chi wneud apwyntiad i gofrestru marwolaeth. Mae pob apwyntiad wyneb yn wyneb ac yn digwydd yn Swyddfa Gofrestru Castell-nedd. 

Gallwch gysylltu â ni cyn trefnu apwyntiad os ydych yn aros i gofrestru marwolaeth. Bydd angen:

  • eich enw
  • eich manylion cyswllt
  • eich perthynas â'r ymadawedig
  • enw yr ymadawedig
  • dyddiad y farwolaeth
  • man marwolaeth
  • y trefnwyr angladdau a ddewiswyd gennych

Cysylltwch â ni

Cyfarwyddiadau i SA11 3BN
Y Swyddfa Gofrestru
Heol Forster Castell-nedd Castell-nedd Port Talbot SA11 3BN pref
(01639) 760 021 (01639) 760 021 voice +441639760021