Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cynllunio eich seremoni

Os caiff y lleoliad ei newid am unrhyw reswm, bydd yn rhaid i chi roi hysbysiadau newydd a thalu'r ffi statudol eto.

Swyddfa gofrestru

Os yw eich seremoni yn y swyddfa gofrestru,  byddwch yn trefnu'r Cofrestrydd a'r lleoliad ar yr un pryd.

Cynhelir seremonïau 6 diwrnod yr wythnos (dydd Llun i ddydd Sadwrn).

Adeiladau cymeradwy

Os yw eich seremoni mewn adeilad cymeradwy, mae angen i chi drefnu gyda'r lleoliad yn uniongyrchol. Ar ôl hynny, cysylltwch â ni i drefnu eich Cofrestrydd.

Cynhelir seremonïau 7 diwrnod yr wythnos (gan gynnwys gwyliau banc).

Tu allan i Gastell Nedd Port Talbot

Os yw eich seremoni y tu allan i Gastell-nedd Port Talbot, mae angen i chi hysbysu'r swyddfa gofrestru lle rydych chi'n byw.

Priodi dramor

Os ydych chi'n ddinesydd Prydeinig ac eisiau cael partneriaeth sifil dramor, efallai y bydd angen rhai dogfennau arnoch chi gan lywodraeth y DU.