Rhowch eich gwybodaeth
Rhaid i bob dogfen a ddarperir fod yn wreiddiol.
Os na fyddwch yn dod â’r ddogfennaeth briodol neu’n methu â bodloni’r gofynion preswylio neu unrhyw ofynion eraill, ni all yr apwyntiad mynd yn ei flaen.
Bydd angen i chi drefnu apwyntiad arall a thalu'r ffi eto.
Mathau o adnabyddiaeth
Bydd angen i chi ddod â dau fath o brawf adnabod:
- pasbort Prydeinig llawn
- tystysgrif geni lawn
- trwydded yrru
Os cawsoch eich geni ar ôl 1983 rhaid i chi ddangos pasbort Prydeinig. Os nad oes gennych un, mae angen i chi ddangos eich tystysgrif geni lawn a thystysgrif geni eich mam.
Prawf o gyfeiriad
Bydd angen i chi ddod ag un dogfen i ddangos eich cyfeiriad presennol:
- cyfriflen banc diweddar
- datganiad treth y cyngor
- bil cyfleustodau
Dogfennau ychwanegol
Efallai y bydd angen i chi ddod â rhai dogfennau ychwanegol os bydd y naill neu'r llall wedi:
- newid eich enw
- cael priod neu bartner sifil sydd wedi marw
- bod mewn priodas neu bartneriaeth sifil o’r blaen
Prawf o newid enw
Bydd angen i chi ddod â phrawf o’r newid (er enghraifft dogfen newid enw).
Priod neu bartner sifil sydd wedi marw
Bydd angen i chi ddod â phrawf o'r:
- tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil
- tystysgrif marwolaeth priod neu bartner sifil
Os ydych wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil o’r blaen
Os yw’r naill neu’r llall ohonoch wedi ysgaru neu os oeddech mewn partneriaeth sifil sydd wedi’i diddymu bydd angen i chi ddod â:
- y ddogfen ysgariad neu ddiddymiad terfynol
- y dystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil
- cyfieithiadau wedi'u llofnodi o unrhyw ddogfennau nad ydynt yn Saesneg