Sut mae'r Llinyn Bywyd yn gweithio
Trosolwg
Byddwn yn eich helpu i benderfynu ar y lefel o gefnogaeth sy'n addas i'ch anghenion.
Gosod
Bydd un o'n peirianwyr yn gosod eich uned Llinyn Bywyd (Lifeline) ac unrhyw synwyryddion eraill sydd eu hangen. Bydd y peiriannydd yn sicrhau bod yr uned mor hygyrch â phosibl. Byddant yn egluro pob darn o'r offer i chi.
Gerddi
Bydd yr offer yn gweithio yn y rhan fwyaf o erddi bach, ond bydd y peiriannydd yn gwirio'r ystod i chi.
Cyswllt brys
Rhaid i chi ddarparu o leiaf un cyswllt brys sydd ar gael i gysylltu ag ef mewn argyfwng.
Actifadu
Os bydd y Llinyn Bywyd neu'r synwyryddion yn cael eu hactifadu, bydd galwad yn mynd i'n canolfan fonitro. Bydd gweithredwr y ganolfan alwadau yn siarad â chi drwy'r uchelseinydd ar yr uned sylfaen ac yn penderfynu gyda chi beth i'w wneud.
Yn y rhan fwyaf o ardaloedd y tŷ, bydd y staff yn eich clywed. Os na, byddant yn eich ffonio chi yn gyntaf cyn galw am ymatebydd priodol.
Os na all y staff eich clywed oherwydd eich bod y tu allan, byddant yn ffonio eich cysylltiadau brys neu'r heddlu i gynnal galwad lles.
Cynnal a Chadw
Os oes problem, gallwch ein ffonio ar 01639 686636 a byddwn yn trefnu galwad cynnal a chadw.