Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cymorth busnes Pontio Tata

Mae pob grant yn amodol ar argaeledd cyllid

Cronfa Twf Economaidd a Buddsoddi

I ymholi am y Gronfa Twf Economaidd a Buddsoddi, e-bostiwch Dîm Datblygu Economaidd Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar: tsukgrantqueries@npt.gov.uk

Cronfa Pontio'r Gadwyn Gyflenwi

Mae'r Cronfa Pontio'r Gadwyn Gyflenwi  wedi’i hoedi i ymholiadau newydd ar hyn o bryd, wrth i geisiadau gael eu hadolygu.

Os ydych chi wedi eich lleoli yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac wedi gweld gostyngiad yn eich busnes, ac yr hoffech ddatblygu cynlluniau i droi at farchnadoedd neu gwsmeriaid newydd, anfonwch e-bost at business@npt.gov.uk er mwyn i ni roi cyngor i chi ar gael mynediad at gyllid amgen.

Os ydych chi wedi eich lleoli yn rhywle arall yng Nghymru, cysylltwch â Busnes Cymru drwy ffonio eu Llinell Gymorth ar 03000 6 03000.

Y Gronfa Cyflogaeth a Sgiliau

Mae grantiau gwerth rhwng £1,000 ac £20,000 ar gael er mwyn helpu gweithwyr Tata Steel a gweithwyr eraill yn y gadwyn gyflenwi ledled Cymru y mae'r broses bontio wedi effeithio arnynt er mwyn eu helpu i ailhyfforddi neu ddysgu sgiliau newydd ar gyfer y farchnad gyflogaeth.

Y Gronfa Cychwyn Busnes

Eisiau dechrau eich busnes eich hunan neu fyd yn hunangyflogedig Os ydych chi neu aelod o’ch teulu’n wynebu colli eich swydd, neu wedi colli eich swydd yn Tata Steel UK, cwmni o fewn y gadwyn gyflenwi yno, neu gontractwyr cysylltiedig eraill, gallwch fynnu help a chefnogaeth drwy gyfrwng tîm cyflogadwyedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Mae’r tîm cyflogadwyedd ar gael i’ch helpu i gymryd y camau nesaf ar eich taith i ddechrau eich busnes eich hunan. Cysylltwch ag nptemployability@npt.gov.uk neu jobsupport@npt.gov.uk

Mae Cronfa Pontio Cyflogaeth a Sgiliau Tata Steel hefyd ar agor gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot. I gael mwy o wybodaeth ewch i https://www.npt.gov.uk/cy/hwb-gwybodaeth-pontio-tata-steel/cefnogaeth-i-bobl/cronfa-ar-gyfer-cyflogaeth-a-sgiliau/

Y Gronfa Cadernid Busnesau

Mae’r Gronfa Cadernid Busnes wedi’i hoedi i ymholiadau newydd ar hyn o bryd, wrth i geisiadau gael eu hadolygu.

Os ydych chi wedi gweld gostyngiad yn eich busnes, ac yn dymuno cefnogaeth i ddatblygu ffrydiau incwm newydd, ystyried effeithiau ar gyflogaeth, neu archwilio mynediad i gyllid amgen, cofrestrwch gyda Busnes Cymru drwy ffonio eu Llinell Gymorth ar 03000 6 03000.

Y Gronfa Twf Busnesau

Mae’r Gronfa Twf wedi’i hoedi i ymholiadau newydd ar hyn o bryd, wrth i geisiadau gael eu hadolygu.

Os ydych chi’n dymuno ymestyn eich busnes drwy dyfu cyflogaeth neu drwy archwilio cyfleoedd newydd i fynd i’r farchnad, anfonwch e-bost at business@npt.gov.uk er mwyn i ni roi cyngor i chi ar gael mynediad at gyllid amgen.

Rhannu eich Adborth