Cymorth busnes Pontio Tata
Cronfa Pontio'r Gadwyn Gyflenwi
Mae'r Cronfa Pontio'r Gadwyn Gyflenwi ar gael i'r busnesau hynny sy'n ddibynnol ar Tata Steel am fwy na 30% o'u trosiant.
Mae grantiau gwerth rhwng £2,500 a £300,000 ar gyfer costau cyfalaf a refeniw ar gael er mwyn cefnogi busnesau'r gadwyn gyflenwi a chontractwyr eraill ledled Cymru y mae penderfyniad Tata Steel i bontio i brosesau cynhyrchu dur gwyrddach wedi effeithio arnynt.
Y Gronfa Cyflogaeth a Sgiliau
Mae grantiau gwerth rhwng £1,000 ac £20,000 ar gael er mwyn helpu gweithwyr Tata Steel a gweithwyr eraill yn y gadwyn gyflenwi ledled Cymru y mae'r broses bontio wedi effeithio arnynt er mwyn eu helpu i ailhyfforddi neu ddysgu sgiliau newydd ar gyfer y farchnad gyflogaeth.
Y Gronfa Dechrau Busnes
Grantiau gwerth hyd at £50,000 er mwyn helpu unigolion yng nghadwyn gyflenwi Tata Steel UK yr effeithiwyd arnynt a chyflogeion Tata Steel UK (gan gynnwys perthnasau uniongyrchol sy'n byw ar yr un aelwyd) sydd am ddechrau eu busnesau eu hunain neu fod yn hunangyflogedig, a'r rhai sydd eisoes yn rhedeg busnes bach/cyfnod cynnar o bosibl.
Caiff y cymorth dechrau busnes ei roi drwy ddull partneriaeth, lle y bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gweinyddu'r gronfa grantiau a gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru yn rhoi cyngor a chymorth arbenigol arall.
Os ydych chi'n ystyried dechrau busnes newydd neu fod yn hunangyflogedig, neu os ydych chi eisoes yn rhedeg busnes bach, e-bostiwch Busnes Cymru yn selfemployment@businesswales.org neu ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/cymorth-busnes-cymru-ar-gyfer-proses-bontio-tata-steel er mwyn i chi allu dechrau cael cyngor a chofrestru ar gyfer y grant.
Y Gronfa Cadernid Busnesau
Cymorth i fusnesau lleol a chontractwyr eraill sydd wedi'u lleoli yng Nghastell-nedd Port Talbot ac nad ydynt yn gymwys i wneud cais am gymorth gan Gronfa Pontio'r Gadwyn Gyflenwi ond sy'n disgwyl i'r broses bontio ar safle Tata Steel ym Mhort Talbot effeithio arnynt. Bydd hyn yn cynnwys cyllid grant na fydd angen ei ad-dalu gwerth rhwng £2,500 a £50,000 i dalu costau cyfalaf a refeniw.
Cofrestru i gael gwybodaeth am y Gronfa ar ôl iddi gael ei lansio.
Cyn gwneud cais am gyllid grant, bydd angen i BOB ymgeisydd gwblhau adolygiad busnes gyda Busnes Cymru.
Y Gronfa Twf Busnesau
Cymorth a chyllid grant cyfalaf a refeniw er mwyn helpu busnesau, contractwyr a chyflenwyr sydd wedi'u lleoli yng Nghastell-nedd Port Talbot i fanteisio ar gyfleoedd i dyfu, buddsoddi ac arallgyfeirio a chreu swyddi newydd. Bydd y Gronfa'n cynnig grantiau refeniw a chyfalaf gwerth rhwng £25,000 a £300,000. Caiff grantiau gwerth llai na £25,001 eu hystyried fesul achos hefyd.
Cofrestru i gael gwybodaeth am y Gronfa ar ôl iddi gael ei lansio.