Gwneud cais am randir
Lleiniau bach o dir yw rhandiroedd y gallwch eu rhentu i dyfu eich ffrwythau a'ch llysiau eich hun. Fel arfer maent yn rhan o safle mwy a rennir gyda garddwyr eraill.
Argaeledd
Pwy all wneud cais
Rhaid i chi fyw ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i rentu llain o randir.
Bydd angen i chi:
- llofnodi cytundeb tenantiaeth
- talu rhent bob blwyddyn
Faint mae rhandir yn ei gostio
Rhent blynyddol yn daladwy o fis Ebrill:
- £77 (cyfradd safonol)
- £67 (cyfradd gonsesiynol)
Safleoedd rhandiroedd rydyn ni'n eu rheoli
Rydym yn rheoli 5 safle:
- Glyncorrwg
- Cwmafan
- Margam
- Baglan Moors
- Baglan
Safleoedd rhandiroedd eraill
Mae rhai safleoedd yn ardal Castell-nedd yn cael eu rheoli gan Gynghorau Cymuned lleol:
- Blaenhonddan
- Llansawel
- Tref Castell-nedd
- Resolfen
- Tonna
Ymunwch â'r rhestr aros
Gallwch wneud cais ar-lein i ymuno â rhestr aros am rhand. Gallwch hefyd ofyn cwestiwn i ni am ein safleoedd rhandiroedd.
Gwnewch yn siŵr bod eich manylion cyswllt yn gywir. Byddwn yn eu defnyddio i gysylltu â chi oni bai eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau.