Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Dogfen

Hysbysiad Preifatrwydd - Cynllun Peilot Blaengaredd ym maes Anweithgarwch Economaidd

Pwrpas y cynlluniau Blaengaredd ym maes Anweithgarwch Economaidd

Mae'r rhaglen yn defnyddio dull aml-asiantaeth i dreialu ffyrdd newydd o ymgysylltu ag oedolion economaidd anweithgar.

Bydd cynlluniau Blaengaredd ym maes Anweithgarwch Economaidd yn canolbwyntio ar bobl:

  • sydd â chyflyrau iechyd
  • sy'n anabl
  • sydd â chyfrifoldebau gofal

Bydd y rhaglen yn meithrin partneriaethau cadarn gyda sefydliadau cymunedol a chyrff lleol fel Byrddau Iechyd Lleol, meddygon teulu, y Ganolfan Byd Gwaith, gofal cymdeithasol, gwasanaethau iechyd cymunedol, a'r trydydd sector. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar ymgysylltu â chyflogwyr a lleihau rhwystrau rhag cymorth neu waith.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu

Mae Llywodraeth Cymru a'r DWP yn Reolwyr Data ar y cyd at ddibenion a dulliau prosesu'r data personol rydych wedi'u darparu mewn perthynas â'r Cynllun Peilot Blaengaredd ym maes Anweithgarwch Economaidd. Byddwn ni'n prosesu'r wybodaeth fel rhan o'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Y data personol y byddwn ni'n eu casglu a'u prosesu

Diffinnir data personol o dan GDPR y DU fel gwybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy.

Mae'r data a gesglir ar gyfer y cynllun peilot wedi'u rhestru yn Atodiad 2.

Sut byddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth

Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich data at ddibenion:

  • ariannu, cynllunio, datblygu polisi, monitro canlyniadau rhaglenni a gwerthuso
  • gweinyddu, dilysu ac archwilio
  • cynhyrchu ystadegau dienw y gellir eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru
  • rhannu straeon newyddion da i hyrwyddo'r rhaglen. Bydd eich gwybodaeth yn aros yn ddienw oni bai eich bod yn rhoi caniatâd.

Pwy fydd yn cael gweld eich data personol?

Gall y canlynol weld eich data:

  • Llywodraeth Cymru at y dibenion a ddisgrifir uchod
  • cwmni gwerthuso a benodir gan Lywodraeth Cymru sy'n asesu sut mae'r cynllun Blaengaredd ym maes anweithgarwch economaidd wedi eich cefnogi (mae cyfranogiad yn wirfoddol)
  • yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) at ddibenion ariannu, monitro, gweinyddu, gwirio, ystadegau ac archwilio
  • cwmni gwerthuso a benodir gan y DWP i gynnal gwerthusiad o'r Rhaglen Get Britain Working Trailblazer UK ehangach (mae cyfranogiad yn wirfoddol)
  • timau gwasanaeth cymorth a gweinyddwyr technegol (ni fydd gweinyddwyr yn defnyddio'ch manylion mewn unrhyw ffordd)
  • asiantaethau atal twyll ar gyfer atal twyll a gwiriadau gwyngalchu arian

Data categori arbennig

O dan Erthygl 9(2)(a) o GDPR y DU, dim ond gyda'ch caniatâd penodol y bydd Llywodraeth Cymru a (DWP) yn prosesu data categori arbennig. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu'r data hyn gyda'u cwmni gwerthuso i asesu sut mae'r cynllun Blaengaredd ym maes Anweithgarwch Economaidd wedi eich cefnogi (mae cyfranogiad yn wirfoddol).

Bydd y DWP a'u cwmni gwerthuso yn cynnal gwerthusiad o'r Rhaglen Get Britain Working Economic Inactivity Trailblazer UK ehangach. Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol.

Bydd hyn yn cynnwys:

  • cyflyrau neu amhariadau iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor
  • anabledd
  • rhywedd
  • ethnigrwydd
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol 

Sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod fy nata yn ddiogel?

Mae eich gwybodaeth yn cael ei storio ar weinyddion diogel yn y DU mewn ffolderi cyfyngedig sy'n hygyrch i staff perthnasol yn unig.

Bydd unrhyw achosion o dorri cyfrinachedd data a amheuir yn cael eu rheoli o dan weithdrefnau Llywodraeth Cymru ac yn cael eu hadrodd i chi a rheoleiddwyr lle bo hynny'n ofynnol yn gyfreithiol.

Pa mor hir y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw fy ngwybodaeth i?

Bydd eich data personol yn cael eu cadw ar systemau TG diogel Llywodraeth Cymru yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru, ac yn cael eu dinistrio'n ddiogel wedi hynny. Efallai y byddwn yn dileu'r wybodaeth cyn hynny os nad yw'n cael ei defnyddio mwyach.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl i'r canlynol:

  • i gael gwybod am y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch, a gweld y data hynny
  • i ofyn i ni gywiro unrhyw wallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
  • i’ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan rai amgylchiadau)
  • i gludadwyedd data (o dan rai amgylchiadau)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Manylion cyswllt

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn cysylltwch â ni yn:

Polisi Cyflogadwyedd 
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ
E-bost: PolisiCyflogadwyeddaSgiliau@llyw.cymru

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y ddeddfwriaeth diogelu data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10  3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: www.cy.ico.org.uk

Atodiad 2

Ar gyfer y cynllun peilot Blaengaredd hwn, byddwn yn casglu'r data personol canlynol:

  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • enw llawn
  • cyfeiriad, gan gynnwys cod post
  • gwybodaeth gyswllt (rhif cyswllt a chyfeiriad e-bost)
  • dyddiad geni
  • rhywedd/rhyw
  • ethnigrwydd
  • cyflyrau/amhariadau corfforol neu iechyd meddwl gan gynnwys Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • p'un a yw cyfranogwyr yn cael eu cyfeirio at/yn ymgysylltu â chymorth iechyd meddwl a chorfforol/llesiant meddyliol a chorfforol, systemau hawliau lles/gweithwyr allweddol, grwpiau cymunedol, cymorth gyda sgiliau bywyd

Wrth fod yn rhan o’r cynllun peilot anweithgarwch economaidd, byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth am:

  • statws o ran cyflogaeth, addysg/hyfforddiant
  • tystysgrifau/cymwysterau sy'n berthnasol i waith a chwilio am swydd
  • rhwystrau i addysg/cyflogaeth
  • dechrau addysg/hyfforddiant ar ôl gadael y rhaglen
  • profiad gwaith, cyfleoedd gwaith â thâl a gwirfoddoli
  • dechrau cyflogaeth gan gynnwys hunangyflogaeth, contractau 0 awr a chyflogaeth o dan 16 awr yr wythnos
  • os ydych chi wedi dechrau cyflogaeth, pa sector a graddfa gyflog
  • atgyfeiriadau at ddarpariaeth arall
  • mae cronfa rhwystrau mewnol yn cael ei dyrannu i'r rhai sy'n dechrau cyflogaeth