Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Beth sy’n digwydd yn y tribiwnlys

Mae’r tribiwnlys yn annibynnol ar y cyngor. Mae’n edrych ar y gyfraith, y dystiolaeth, a’ch sefyllfa ar adeg y penderfyniad.

Mae dau fath o wrandawiad:

  • Gwrandawiad llafar – gallwch chi neu’ch cynrychiolydd fynychu a siarad
  • Gwrandawiad papur – mae’r tribiwnlys yn edrych ar dystiolaeth ysgrifenedig yn unig

Byddwch yn cael copi o’r penderfyniad ar ôl y gwrandawiad.

Os yw eich apêl yn llwyddiannus

Byddwn yn diweddaru’ch budd-dal cyn gynted ag y byddwn yn derbyn penderfyniad y tribiwnlys.

Os nad yw eich apêl yn llwyddiannus

Efallai y gallwch apelio eto, ond dim ond ar bwynt cyfreithiol.

Byddai hyn yn mynd at Gomisiynwyr Nawdd Cymdeithasol.

Rhannu eich Adborth