Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cymorth i dalu’r rhent i denantiaid preifat

Os ydych yn rhentu gan landlord preifat, efallai y gallwch gael cymorth gyda’ch rhent a’ch Treth Gyngor.

Gall landlord preifat fod yn:

  • unigolyn
  • cymdeithas tai
  • cwmni

Pa gymorth y gallwch ei gael

Credyd Cynhwysol

Os ydych o oed gweithio, efallai y bydd angen i chi hawlio Credyd Cynhwysol yn lle Budd-dal Tai. Mae hyn yn cynnwys elfen costau tai i helpu gyda’r rhent.

  • Mae’n helpu gyda’r rhent a rhai taliadau gwasanaeth.
  • Rhaid i chi wneud cais ar wahân am Gymorth Treth Gyngor.
  • Caiff Credyd Cynhwysol ei dalu’n fisol i’ch cyfrif banc.
  • Mae’n cynnwys arian ar gyfer rhent, a rhaid i chi ei dalu i’ch landlord.

Cymorth Treth y Cyngor

Mae hyn yn helpu i leihau eich bil Treth y Cyngor. 

Efallai y gallwch ei gael os ydych yn:

  • ar incwm isel
  • yn cael budd-daliadau fel Credyd Cynhwysol neu Gredyd Pensiwn
  • yn byw yn yr eiddo rydych yn gwneud cais amdano

Mae faint a gewch yn dibynnu ar eich incwm, eich cynilion, a maint eich aelwyd.

Cymorth gyda chostau rhent

Mae Budd-dal Tai yn helpu gyda chostau rhent os ydych ar incwm isel neu’n cael rhai budd-daliadau.

Os ydych yn rhentu gan landlord preifat, mae’r swm y gallwch ei gael yn seiliedig ar gyfraddau’r Lwfans Tai Lleol.

Beth sy’n effeithio ar eich lwfans

Mae eich cyfradd Lwfans Tai Lleol yn dibynnu ar:

  • ble rydych yn byw
  • pwy sy’n byw gyda chi
  • maint y cartref sydd ei angen arnoch
  • eich oedran a chyfansoddiad eich aelwyd

Efallai y gallwch gael Budd-dal Tai os ydych yn:

  • talu rhent i landlord preifat
  • ar incwm isel neu’n cael rhai budd-daliadau

Gellir talu Budd-dal Tai i chi neu’n uniongyrchol i’ch landlord.

Hawl i ystafell wely

Mae faint o Lwfans Tai Lleol a gewch yn dibynnu ar sawl ystafell wely sydd ei hangen arnoch chi a’ch teulu.

Un ystafell wely ar gyfer:

  • pob cwpl oedolion
  • unrhyw oedolyn arall dros 16 oed
  • unrhyw ddau blentyn o dan 10 oed
  • unrhyw ddau blentyn o’r un rhyw rhwng 10 a 15 oed
  • unrhyw blentyn arall

Os ydych yn sengl ac o dan 35 oed, byddwch yn cael cyfradd llety a rennir y Lwfans Tai Lleol. Mae’r gyfradd hon hefyd yn berthnasol i bobl sengl neu gyplau sy’n dewis byw mewn llety a rennir.

Enghreifftiau

Enghraifft 1 

Bydd angen cyfradd dau ystafell wely o Lwfans Tai Lleol ar gwpl gyda mab 8 oed a merch 6 oed. Bydd un ystafell ar gyfer y cwpl ac un ystafell ar gyfer y plant gan fod y ddau o dan 10 oed.

Enghraifft 2

Bydd angen cyfradd 3 ystafell wely o Lwfans Tai Lleol ar riant sengl gyda mab 11 oed a merch 14 oed. Bydd un ystafell ar gyfer y rhiant sengl, un ar gyfer y mab ac un ar gyfer y ferch gan fod y plant dros 10 oed ac o rywiau gwahanol.

Hyd yn oed os ydynt ond yn byw mewn tŷ dau ystafell wely, bydd eu hawl i fudd-dal yn seiliedig ar gyfradd Lwfans Tai Lleol ar gyfer tri ystafell wely.

Gwahaniaethau rhwng lwfans a rhent

  • Os yw eich rhent yn uwch na’ch lwfans, bydd rhaid i chi dalu’r gwahaniaeth eich hun.
  • Os yw eich rhent yn is, bydd eich budd-dal yn seiliedig ar swm y rhent.

Apêl

Nid oes hawl i apelio. Mae hyn oherwydd y gallai newid faint o arian y mae pobl eraill yn ei gael, hyd yn oed os ydynt yn fodlon ar eu lwfans eu hunain.

Cymorth arall sydd ar gael

Efallai y gallwch gael cymorth ychwanegol os nad yw eich Budd-dal Tai yn cwmpasu eich holl rent.

Mae Taliad Tai yn ôl disgresiwn ar gyfer:

  • people who have serious financial problems
  • have exceptional circumstances
  • need extra help to pay their rent

To apply for a discretionary payment, you need to fill out a form to show how much money you get and spend. Contact the Benefits Section for a questionnaire.

Cysylltwch â ni

Ar-lein

Gallwch gysylltu â ni ar-lein i gael help neu gyngor am Fudd-dal Tai neu Gymorth Treth Gyngor.

Yn bersonol

  • drwy ymweld ag adran y budd-daliadau yn un o’n canolfannau gwasanaethau cwsmeriaid yn:
    • Canolfan Ddinesig Castell-nedd, Castell-nedd, SA11 3QZ
    • Canolfan Ddinesig Port Talbot, Port Talbot, SA13 1PJ
Adran Budd-dal Tai
(01639) 686838 (01639) 686838 voice +441639686838

Mae ein llinellau ffôn ar agor o 9.30am tan 4.30pm.

Rhannu eich Adborth