Newid mewn amgylchiadau
Os ydych yn hawlio Budd-dal Tai ac mae rhywbeth yn newid yn eich bywyd, rhaid i chi ysgrifennu atom i roi gwybod i ni. Hyd yn oed os byddwch yn rhoi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), mae angen i chi hysbysu’r tîm Budd-dal Tai hefyd.
Dyma enghreifftiau o newidiadau y mae’n rhaid i chi roi gwybod amdanynt:
- rydych yn dechrau neu’n rhoi’r gorau i dderbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith
- rydych yn dechrau neu’n rhoi’r gorau i weithio
- mae newidiadau yn eich haelwyd (er enghraifft, os bydd rhywun yn symud i mewn neu allan)
- rydych yn gadael yr eiddo
- mae swm eich cynilion a’ch buddsoddiadau yn newid
- mae newid i’ch incwm
- mae newid i arian rhywun sy’n byw gyda chi (er enghraifft, mab neu ferch sy’n oedolyn). Gelwir y person hwn yn “berson nad yw’n ddibynnol”.
Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Gall llawer o newidiadau eraill yn eich bywyd effeithio ar eich budd-dal hefyd. Os bydd rhywbeth yn newid ac nad ydych yn siŵr, rhowch wybod i’r tîm Budd-daliadau. Byddwn yn gwirio ac yn rhoi gwybod i chi.
Rhaid i chi ysgrifennu atom am unrhyw newidiadau. Fodd bynnag, gallwch ffonio’r tîm Budd-daliadau yn gyntaf i roi gwybod i ni beth sydd wedi newid.