Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Oedolion sy’n agored i niwed

Byddwn yn talu eich Budd-dal Tai i’ch cyfrif banc bob pythefnos. Ar ôl yr adeg hon, ni fyddwch yn gallu dewis i’r taliad gael ei anfon at eich landlord mwyach.

Os ydym yn credu efallai na fyddwch yn talu’ch rhent, neu eich bod yn cael trafferth rheoli eich arian, gallwn dalu’r Budd-dal Tai yn uniongyrchol i’ch landlord yn hytrach.

Os ydych yn teimlo na allwch reoli eich arian, gallwch ofyn i ni am help. Bydd angen i chi lenwi ffurflen a darparu tystiolaeth. Bydd hyn yn ein helpu i benderfynu a ddylem eich ystyried yn ‘agored i niwed’ a thalu’ch rhent yn uniongyrchol i’ch landlord.

Gall pobl a allai gael eu hystyried yn ‘agored i niwed’ gynnwys:

  • pobl ag anawsterau dysgu
  • pobl â phroblemau ariannol sylweddol
  • pobl ag anableddau corfforol

Rydym yn ystyried achos pob unigolyn yn ofalus cyn gwneud penderfyniad.

Rhannu eich Adborth