Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Esboniad o'ch Treth y Cyngor 2026-2027

Nid yw Treth y Cyngor a dalwch yn cael ei gyfrifo ar sail pa wasanaethau rydych yn eu derbyn neu'n eu defnyddio. Fe’i codir ar yr aelwyd, yn seiliedig ar werth yr eiddo. Mae Treth y Cyngor yn cyfrannu tua chwarter i'r gyllideb sydd ei hangen ar y cyngor i ddarparu gwasanaethau hanfodol i drigolion a busnesau.

Daw cyllid y cyngor o ddwy brif ffynhonnell:

  • grantiau Llywodraeth Cymru
  • Treth y Cyngor

Dyma sut mae cyllideb 2026-2027 wedi’i llunio:

2026-2027 Budget Sources Pie Chart CYM 2026-2027 Budget Sources Pie Chart CYM

Lefelau Treth y Cyngor 2026-27

Y cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfer eleni yw 3.5%.

Mae hynny’n gynnydd cyfartalog o £1.15 yr wythnos.

Dyma ddadansoddiad o’r cynnydd ar gyfer pob band eiddo:

Band eiddo Nifer y cartrefi yn y band hwn
Cynnydd wythnosol yn Nhreth y Cyngor fesul cartref
A 13,230 £0.90
B 26,634 £1.05
C 11,466 £1.20
D 7,253 £1.35
E 4,424 £1.65
F 1,349 £1.95
G 525 £2.25
H 103 £2.70
I 21 £3.15