Gostyngiadau Treth y Cyngor
Fel arfer, mae'n rhaid i chi dalu Treth y Cyngor os ydych chi'n 18 oed neu'n hŷn ac yn berchen ar gartref neu'n rhentu un. Mae bil Treth y Cyngor yn seiliedig ar 2 oedolyn yn byw mewn eiddo.
Pwy sydd ddim yn cael ei gyfrif
Nid yw rhai pobl yn cael eu cyfrif (‘diystyru’) wrth gyfrifo faint o bobl sy’n byw mewn eiddo. Mae hyn yn golygu efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am ostyngiad ar eich bil Treth y Cyngor.