Gostyngiad i fyfyrwyr
Gallwn gynnig gostyngiad o 25% os oes pawb ond un o'r oedolion sy'n byw yn yr eiddo yn fyfyriwr
Gallwch cael eithriad o 100% os myfyrwyr yn unig sy'n byw yn yr eiddo.
Er mwyn cael eich ystyried fel myfyriwr llawn amser rhaid:
- I chi fod yn ymgymryd â chwrs addysg uwch amser llawn mewn sefydliad addysgol a ragnodir (megis coleg neu brifysgol)
I'r cwrs a gynhelir bara am gyfnod o 24 wythnos fesul blwyddyn academaidd. - I'r cwrs ofyn am 21 awr yr wythnos o astudio (mae hyn yn cynnwys cyfnodau o astudio, sesiynau tiwtora neu brofiad gwaith)
Neu
Gallwch hefyd gael eich ystyried fel myfyriwr os ydych chi:
- Dan 20 mlwydd oed ac yn astudio am gwrs addysg cymhwysol, nad yw'n addysg uwch (e.e. Safon Uwch).
- Nyrs dan hyfforddiant Annwyl Rheolwr Parcio Gweithredol,
- Wedi eich penodi fel cynorthwy-ydd iaith dramor mewn ysgol neu goleg ym Mhrydain Fawr sydd wedi'i gofrestru gyda'r Swyddfa Ganolog ar gyfer Ymweliadau Addysgol ac Ymweliadau Cyfnewid.
- Ymgymryd â chwrs gohebol e.e. gyda’r Brifysgol Agored. (Er mwyn bod yn gymwys, mae 120 o bwyntiau astudio yn gyfwerth â blwyddyn academaidd lawn ac mae’n rhaid i hyn gael ei ardystio gan y Brifysgol).
Gwneud cais
Er mwyn defnyddio'r ffurflen gais, mae'n rhaid i chi uwchlwytho copi o'ch Tystysgrif Myfyriwr. Gallwch gael tystysgrif gan eich prifysgol neu goleg. Mae'n rhaid i'r ffeiliau fod yn PNG, JPG neu JPEG