Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Hyfforddeion ifanc

Prentisiaid

Gallwch gael y gostyngiad hwn os yw rhywun sy'n byw yn eich cyfeiriad o prentis.

Rhaid i brentis fodloni’r meini prawf canlynol:

  1. Maent yn gyflogedig i ddysgu crefft neu broffesiwn, ac
    • maent yn derbyn cyflog neu lwfans (neu’r ddau)
    • nid yw eu tâl yn fwy na’r cyfraddau isel fesul awr a osodir yn Rheoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2015
  2. Maent yn cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi sy’n arwain at gymhwyster a ddyfernir gan gorff cydnabyddedig. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r cymhwyster fod yn:
    • Cydnabyddedig gan y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau o dan Adran 132 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau a Dysgu 2009
    • Cydnabyddedig gan Gymwysterau Cymru o dan Ran 3 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen:

  • cadarnhad o nifer yr oedolion sy'n byw yn yr eiddo
  • manylion cyflogaeth a chyflog y person. Dylai'r ddogfennaeth gael ei darparu gan y cyflogwr ar bapur â phennawd. Dylai hyn gynnwys:
    • enw a chyfeiriad y cyflogwr
    • enw'r rhaglen hyfforddiant a'r cymhwyster dilynol
    • dyddiadau'r cwrs
    • cyflog

Rhannu eich Adborth