Hyfforddeion ifanc a prentisiaid
Hyfforddeion ifanc
Gallwch gael y gostyngiad hwn os yw rhywun sy'n byw yn eich cyfeiriad o dan 25 oed ac yn ymgymryd â hyfforddiant o dan drefniant hyfforddi ieuenctid.
Bydd angen:
- Cadarnhad o nifer yr oedolion sy'n byw yn yr eiddo
- Enw a dyddiad geni'r hyfforddai
- Cadarnhad o'r cwrs sy'n cael ei astudio. Dylai hwn ddod o ffynhonnell swyddogol, ar bapur pennawd.
Prentisiaid
Gallwch gael y gostyngiad hwn os yw rhywun sy'n byw yn eich cyfeiriad o prentis.
Rhaid i brentis fodloni POB UN o'r meini prawf canlynol:
- Wedi'i gyflogi at ddiben dysgu crefft, busnes, proffesiwn, swyddfa, cyflogaeth neu alwedigaeth
- Yn dilyn rhaglen hyfforddiant a fydd yn arwain at gymhwyster wedi'i achredu gan yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm
- Yn derbyn cyflog a/neu lwfans nad yw'n fwy na £195.00 yr wythnos
Bydd angen:
- Cadarnhad o nifer yr oedolion sy'n byw yn yr eiddo
- Manylion cyflogaeth a chyflog y person. Dylai hyn gynnwys enw a chyfeiriad y cyflogwr, enw'r rhaglen hyfforddiant a'r cymhwyster dilynol, dyddiadau'r cwrs a'r cyflog. Dylai'r ddogfennaeth gael ei darparu gan y cyflogwr ar bapur â phennawd.