Mwy o ostyngiadau
Pobl ifanc dan 20 oed sydd wedi gadael yr ysgol yn ddiweddar
Meini prawf
Pobl dan 20 oed a adawodd yr ysgol neu'r coleg rhwng 1 Mai a 31 Hydref, wedi cwblhau cwrs addysg cymhwyso yn yr un flwyddyn.
Gofynion
Cadarnhad o nifer yr oedolion sy'n byw yn yr eiddo ynghyd â thystysgrif myfyriwr neu lythyr (ar bapur pennawd) gan yr ysgol neu'r coleg sy'n cadarnhau'r astudiaethau. Mae'n rhaid i'r rhain gadarnhau:
- Enw'r myfyriwr
- Dyddiad geni
- Enw a lefel y cwrs
- Dyddiad dechrau a diwedd y cwrs
Myfyrwyr dan 20 oed
Pobl dan 20 oed sy'n astudio am gwrs addysg cymhwyso nad yw'n addysg uwch (e.e. Safon Uwch).
Gofynion
Cadarnhad o nifer yr oedolion sy'n byw yn yr eiddo ynghyd â thystysgrif myfyriwr neu lythyr (ar bapur pennawd) gan yr ysgol neu'r coleg sy'n cadarnhau'r astudiaethau. Mae'n rhaid i'r rhain gadarnhau:
- Enw'r myfyriwr
- Dyddiad geni
- Enw a lefel y cwrs
- Dyddiad dechrau a diwedd y cwrs
Myfyrwyr nyrsio
Mae nyrsys sy'n astudio cwrs addysg amser llawn mewn coleg neu brifysgol neu gwrs a fydd yn arwain at gael eu cofrestru o dan Ddeddf Nyrsys, Bydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd 1979.
Gofynion
Cadarnhad o nifer yr oedolion sy'n byw yn yr eiddo ynghyd â thystysgrif myfyriwr neu lythyr (ar bapur pennawd) gan yr ysgol neu'r coleg sy'n cadarnhau'r astudiaethau. Mae'n rhaid i'r rhain gadarnhau:
- Enw'r myfyriwr
- Dyddiad geni
- Enw a lefel y cwrs
- Dyddiad dechrau a diwedd y cwrs
- Oriau astudio sy'n ofynnol
Cynorthwywyr Iaith Dramor
Person wedi'i benodi'n gynorthwy-ydd iaith dramor mewn ysgol neu goleg ym Mhrydain Fawr sydd wedi'i gofrestru gyda'r Central Bureau for Educational Visits and Exchanges.
Gofynion
Cadarnhad o nifer yr oedolion sy'n byw yn yr eiddo ynghyd â:
- Prawf cofrestriad gyda'r Central Bureau for Educational Visits and Exchanges.
- Prawf penodiad yn gynorthwy-ydd iaith dramor mewn ysgol neu sefydliad addysgol arall
Cleifion ysbyty
Bydd person sy'n byw mewn ysbyty'n barhaol neu gan mwyaf yn cael ei ddiystyr mewn perthynas â'r ysbyty hwnnw. Nid yw rhywun sydd yn yr ysbyty ond yn dychwelyd adref yn bodloni'r meini prawf.
Gofynion
Cadarnhad ysgrifenedig gan yr ysbyty o enw a dyddiad geni'r person a'i fod yn byw yno er mwyn derbyn triniaeth feddygol.
Preswylwyr cartref nyrsio/gofal neu hostel sy'n darparu gofal
Bydd person sy'n byw mewn cartref gofal, ysbyty annibynnol neu hostel, yn barhaol neu gan mwyaf, yn cael ei ddiystyr mewn perthynas â'r annedd honno.
Gofynion
Cadarnhad ysgrifenedig gan y cartref, yr ysbyty neu'r hostel o enw a dyddiad geni y preswylydd a'i fod yno er mwyn derbyn gofal neu driniaeth.
Cymuned grefyddol
Aelodau o gymuned grefyddol lle gweddïo, myfyrio, addysg a/neu roi cymorth i'r rhai sy'n dioddef yw'r prif weithgareddau. Ni all fod gan y person unrhyw incwm na chyfalaf o'i eiddo ei hun a dylai fod yn ddibynnol ar y gymuned am ei anghenion materol.
Gofynion
Cadarnhad o nifer yr oedolion sy'n byw yn yr eiddo, enw a manylion y gymuned grefyddol a manylion unrhyw incwm a chyfalaf sydd gan yr unigolyn.
Hosteli/llochesi nos
Bydd rhywun sy'n byw yn unig neu gan mwyaf mewn llety megis cartref neu loches nos a ddarperir gan amlaf mewn unedau nad ydynt yn hunangynhwysol yn cael ei ddiystyru o ran yr annedd honno.
Gofynion
Cadarnhad ysgrifenedig gan yr hostel o enwau a dyddiadau geni'r bobl sy'n byw yn y llety a ddarperir ganddo.
Gostyngiadau arall
Efallai fod hawl gennych i ostyngiad os ydych yn gymwys o dan un o'r categorïau canlynol:
- Aelod o'r pencadlys rhyngwladol neu gorff amddiffyn, fel y rhagnodir yn y Pencadlysoedd Rhyngwladol a Chyrff Amddiffyn 1964
- Unigolyn sydd ag fraint Diplomydd, y Gymanwlad neu Consylaidd neu imiwnedd nad yw'n Dinesydd Prydeinig.
- Aelod neu ddibynnydd nad ydynt yn Brydeinig ac yn aelod o luoedd sy'n ymweld.
Gwneud cais
Gwneud cais
E-bostiwch council.tax@npt.gov.uk