Pobl dan orchymyn cadw
Person sy'n cael ei gadw gan orchymyn llys, er enghraifft mewn carchar neu ysbyty. Nid yw hyn yn cynnwys cadw pobl am beidio â thalu dirwyon neu dreth y cyngor.
Gofynion
Cadarnhad o nifer yr oedolion sy'n byw yn yr eiddo a bod y person wedi cael ei gadw. Dylai hyn gynnwys:
- dyddiad cadw'r person
 - dyddiad disgwyliedig ei ryddhau
 - enw'r sefydliad
 - unrhyw sylwadau perthnasol
 
Os oes rhywun arall yn ymdrin â materion y person hwn, rhowch ei enw a'i gyfeiriad.