Esboniad o'ch Treth y Cyngor 2025-2026
Nid yw Treth y Cyngor a dalwch yn cael ei gyfrifo ar sail pa wasanaethau rydych yn eu derbyn neu'n eu defnyddio. Fe’i codir ar yr aelwyd, yn seiliedig ar werth yr eiddo. Mae Treth y Cyngor yn cyfrannu tua chwarter i'r gyllideb sydd ei hangen ar y cyngor i ddarparu gwasanaethau hanfodol i drigolion a busnesau.
Daw cyllid y cyngor o ddwy brif ffynhonnell:
- grantiau Llywodraeth Cymru
- Treth y Cyngor
Dyma sut mae cyllideb 2025-2026 wedi’i llunio:
Lefelau Treth y Cyngor 2025-26
Y cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfer eleni yw 7%.
Mae hynny’n gynnydd cyfartalog o £2.15 yr wythnos.
Dyma ddadansoddiad o’r cynnydd ar gyfer pob band eiddo:
| Band eiddo | Nifer y cartrefi yn y band hwn |
Cynnydd wythnosol yn Nhreth y Cyngor fesul cartref
|
|---|---|---|
| A | 13,167 | £1.68 |
| B | 26,571 | £1.96 |
| C | 11,387 | £2.24 |
| D | 7,281 | £2.52 |
| E | 4,413 | £3.08 |
| F | 1,353 | £3.64 |
| G | 526 | £4.20 |
| H | 104 | £5.04 |
| I | 20 | £5.88 |