Sefydliadau Gwirfoddol
Mae'r gronfa ar gael i sefydliadau gwirfoddol, fel Cefnogaeth i Ddioddefwyr, Guiding Hand, Cynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth, i wneud cais am arian ar gyfer prosiectau sy'n cefnogi'r Cynlluniau Gweithredu Troseddau ac Anhrefn. Y grant mwyaf ar gyfer pob cais yw £1,000. Bydd angen manylion costau ar gyfer pob cais.
Meini Prawf ar gyfer Cronfa Prosiectau Sefydliadau Gwirfoddol
Mae'r gronfa yn cefnogi prosiectau penodol sy'n cynorthwyo i gwrdd ag un neu fwy o amcanion cynllun gweithredu troseddau ac anhrefn:
Mae'n bwysig bod y prosiect yn cael ei weithredu mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill sy'n
- lleihau ofn troseddau;
- lleihau ofn ac achosion o drais yn y cartref;
- lleihau'r posibilrwydd o droseddau ieuenctid;
- cynyddu diogelwch y cyhoedd;
- lleihau camddefnyddio sylweddau a chyffuriau;
Amcanion y gronfa
- cefnogi pum cynllun gweithredu troseddau ac anhrefn;
- cynyddu ymwybyddiaeth o faterion troseddau ac anhrefn;
- lleihau achosion o droseddau ac anhrefn;
- cynorthwyo i gryfhau cymunedau lleol;
- gwella ansawdd bywyd preswylwyr yn y Fwrdeistref Sirol;
- datblygu nodau sefydliad yr ymgeisydd.
Pwy all wneud cais?
Sefydliadau gwirfoddol ac elusennol gyda chyfansoddiad.
Grant mwyaf: £1,000 y cais y flwyddyn.
Gwariant cymwys
- Unrhyw wariant ar brosiectau sy'n cefnogi Cynlluniau Gweithredu Troseddau ac Anhrefn.
Fel rhan o'r asesiad, ymgynghorir â'r cynghorydd lleol ar y cais. Bydd y penderfyniadau terfynol ar geisiadau gyda'r Grw^p Datblygu Polisi Troseddau ac Anhrefn.
Os bydd y cais yn cael ei gymeradwyo rhaid cyflwyno adroddiad byr i'r Grw^p Datblygu Polisi Troseddau ac Anhrefn ar ddiwedd y prosiect sy'n gwerthuso llwyddiant y prosiect, gan gynnwys gwybodaeth perfformiad perthnasol.
Ffurflen Gais am Gyllid
-
Cais am Gyllid 2020/2021 (DOCX 126 KB)
m.Id: 30664
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Cais am Gyllid 2020/2021
mSize: 126 KB
mType: docx
m.Url: /media/16370/cais-2020-2021-new.docx