Rhoi gwybod am farwolaeth
Rydym yn deall ei bod yn adeg anodd pan fydd rhywun yn marw. Mae'r adran hon wedi'i chynllunio i geisio gwneud pethau ychydig yn haws.
Cysylltwch â ni cyn gynted ā phosibl fel y gallwn sicrhau bod cyfrif Treth y Cyngor yn cael ei ganslo.
Yr hyn y mae angen i ni ei wybod
Pan fyddwch chi'n cysylltu â ni, a allwch chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol
- enw a chyfeiriad y person sydd wedi marw;
- y dyddiad y bu farw ef neu hi;
- os oes unrhyw un (ee priod) yn dal i fyw yn yr eiddo gan y bydd ganddynt hawl i ostyngiad person sengl o 25%;
- os yw'r person sydd wedi marw yn byw ar ei ben ei hun, p'un a oeddent yn berchennog neu'n denant yr eiddo (pe baent yn denant, mae angen i ni hefyd wybod enw'r lletywr).