Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cwestiynau Cyson Cymorth

Cymorth


Pa Borwr ddylwn i ei ddefnyddio?

Gan fod ein safle yn defnyddio fframiau, y ffordd orau o edrych arno yw trwy'r meddalwedd pori diweddaraf, naill ai Microsoft Internet Explorer. Gallwch lwytho'r rhain i lawr o'r safle perthnasol yn rhad ac am ddim. Gall y rhain fod yn ffeiliau cywasgedig mawr iawn (yn amrywio o 4 i 6 MB), sydd hyd yn oed yn fwy pan nad ydynt wedi'u cywasgu. Felly, gwnewch yn siwr bod gennych ddigon o le ar eich disg caled! Mae ein safle hefyd yn defnyddio tablau nad ydynt efallai yn cael eu cefnogi gan borwyr hy^n.


Sut alla' i weld dogfennau Adobe PDF?

Gallwch weld dogfennau Adobe ar ein gwefan drwy lwytho'r Darllenydd i lawr yn rhad ac ddim o wefan Adobe.

Fel arall, ewch ar wefan Adobe sy'n darparu offer a gwybodaeth arbenigol er mwyn i'r rheiny sydd â nam ar y golwg allu defnyddio ffeiliau PDF Adobe.


Nid yw'r delweddau wedi'u harddangos yn iawn.

Mae'r holl ddelweddau ar y safle hwn wedi cael eu cadw fel ffeiliau GIF, sy'n defnyddio 216 o liwiau. I'r rheiny ohonoch gyda monitorau lliw ac arddangosyddion graffeg VGA neu SuperVGA gallwch newid y gosodiadau graffig, ond os oes gennych fonitor unlliw neu os ydych yn defnyddio cerdyn graffeg hy^n, ni fydd y delweddau'n ymddangos yn gywir ar eich sgrîn. Os yw hyn yn achosi problemau, gallwch ddefnyddio eich porwr i ddiffodd llwytho delweddau awtomatig.

Mae rhai o'n delweddau GIF yn sgrolio rhwng nifer o olygfeydd, ac efallai nad ydynt yn ymddangos yn iawn ar eich porwr.

Mae'r rhan fwyaf o'r delweddau yn y safle hwn yn llai na 20K, gan ganiatau i chi lwytho tudalennau ychydig yn gyflymach. Mae teitl gan bob un, sy'n gymorth pan fydd llwytho delweddau awtomatig wedi cael ei ddiffodd.


Edrych ar dudalennau'r We

Cliciwch ar y geiriau a amlygir (h.y. geiriau a danlinellir) ar dudalen i ddod â thudalen arall o wybodaeth i'ch sgrîn. Cliciwch fotymau Nôl ac Ymlaen y bar offer ar y porwr i fynd nôl (neu ymlaen) i dudalen rydych wedi'i gweld eisoes.

 Pan rydych yn clicio gyda'r llygoden dros air, llun neu gyswllt bwydlen wedi'u goleuo, rydych yn dod â thudalen arall o wybodaeth i'ch sgrîn. Bydd y llygoden yn newid o saeth i symbol llaw sy'n pwyntio, gan nodi bod cyswllt i dudalen neu safle arall.


Defnyddio fframiau a dyluniad safle

 Gan ddefnyddio fframiau, gall porwr arddangos tudalennu o fewn tudalen. Mae fframiau'n rhannu tudalen yn rhannau hirsgwar, ac mae pob rhan yn gallu arddangos tudalen.

Mae ein safle wedi'i gosod allan fel a ganlyn:

Mae ein safle yn hierarchaidd o ran strwythur, gyda phob tudalen yn arwain at dudalennu ymhellach i lawr yr hierarchaeth. Y dudalen gyntaf a welwch yw ein tudalen gartref. Mae'r botymau ar y dudalen gartref yn cynnwys cysylltiadau i dudalennau eraill ein safle, gan ddangos tudalen gartref y prif is-bynciau yn gyntaf. Bydd clicio ar gyswllt yma yn dangos bwydlen newydd o eitemau fel rheol ar ochr chwith y sgrîn, a thudalen lle mae'r cynnwys yn cael ei ddangos ar y dde. Bydd y fwydlen baner yn cael ei dangos o hyd, felly gallwch symud o gwmpas y safle yn eithaf rhwydd. Fel arall, gallwch ddefnyddio botymau Nôl ac Ymlaen y porwr ei hun ar y bar offer.


Argraffu Tudalennau'r Rhyngrwyd

Er mwyn argraffu cynnwys tudalen gyfredol:

O'r fwydlen Ffeiliau, dewiswch Print, neu cliciwch y botwm Print yn y bar offer. Mae bocs dialog yn eich caniatau i ddethol dewisiadau argraffu a dechrau argraffu.

Mae Netscape Navigator yn eich caniatau i argraffau fframiau. Pan rydych yn edrych ar dudalen sy'n cynnwys fframiau, yn y fwydlen Ffeil byddwch yn gweld Print Frame yn lle Print. Mae'r gorchymyn hwn yn caniatau i chi argraffu'r dudalen o fewn ffrâm sydd wedi cael ei ddewis yn unig. Mae gan yr Internet Explorer y dewisiadau bwydlen File.....Print yn unig.


Ffordd gyflym i seiclo ymhlith meysydd a botymau

Mae gwasgu'r allweddell Tab yn ffordd gyflym ar gyfer dewis cysylltiadau, meysydd a botymau, neu symud y cyrchwr o un elfen ar eich sgrîn i'r un nesaf. Mae lleoliad cyfredol y cyrchwr yn cael ei alw'n ei ffocws. Er enghraifft, mewn Netscape Navigator, mae'r ffocws ar y maes lleoliad (ar far offer y porwr) sy'n cynnwys cyfeiriad y safle) felly mae gwasgu'r allweddell Tab yn dewis elfennau tudalen sy'n dechrau gyda chynnwys y maes lleoliad. Os yw'r dudalen gyfredol yn cynnwys meysydd ffurf neu elfennau ffurf eraill, ac mae'r ffocws o fewn y ffurf, mae gwasgu'r allweddell Tab yn symud y cyrchwr i'r elfen ffurf nesaf neu'n ei ddewis. Wrth i chi wasgu'r allweddell Tab, byddwch yn sylwi bod blwch llwyd yn ymddangos o gwmpas pob elfen ar eich tudalen sy'n cynnwys cyswllt i leoliad newydd.


Nodau Cymraeg

Ceir problem wrth arddangos rhai nodau Cymraeg ar y Rhyngrwyd. Mae'r Rhyngrwyd yn defnyddio nodau ISO Latin-1. Yn anffodus nid yw'r set nodau hon yn cynnwys y nodau canlynol:

W acen grom (W^)
w acen grom (w^)
Y acen grom (Y^)
y acen grom (y^)

Mae fersiwn Gymraeg safle'r we Castell-nedd Port Talbot yn defnyddio dau nod i gynrychioli pob un o'r uchod. Mae nodau eraill WEDI'U cynnwys yn y ffont ISO, ac felly nid ydynt yn cael eu heffeithio.


Cydnabyddiaeth Hawlfraint

Mae'r mapio wedi cael ei dynnu o ddeunydd Arolwg Ordnans. Mae mapiau Arolwg Ordnans, a mapiau a grewyd o ddeunydd Arolwg Ordnans yn ddarostyngedig i hawlfraint y Goron. Mae'r defnydd o'r mapio wedi'i gyfyngu i ganiatâd i wylio a'i lwytho i lawr ar eich system at ddibenion preifat ac anfasnachol yn unig. Ni ellir is-drwyddedu, gwerthu, dangos, benthyca neu drosglwyddo neu ymelwa ar y mapio ymhellach heb ganiatâd ysgrifenedig Arolwg Ordnans ymlaen llaw. Ni fydd Arolwg Ordnans yn gyfrifol am y Deunydd Map nad yw'n addas i'ch debenion neu'ch cymwysiadau. Gellir cael manylion pellach am gynnyrch Arolwg Ordnans ar y Rhyngrwyd.

Cydnabyddiaeth Hawlfraint

Mae'r mapio wedi cael ei dynnu o ddeunydd "Maps in Minutes". Mae'r defnydd o'r mapio wedi'i gyfyngu i ganiatâd i wylio a'i lwytho i lawr ar eich system at ddibenion preifat ac anfasnachol yn unig. Ni ellir is-drwyddedu, gwerthu, dangos, benthyca neu drosglwyddo neu ymelwa ar y mapio ymhellach heb ganiatâd ysgrifenedig "Maps in Minutes" ymlaen llaw. Ni fydd "Maps in Minutes" yn gyfrifol am y Deunydd Map nad yw'n addas i'ch debenion neu'ch cymwysiadau. Gellir cael manylion pellach am gynnyrch "Maps in Minutes" ar y Rhyngrwyd. (URL http://www.mapsinminutes.com).