Ni fydd yn hawdd ymdopi â bwlch ariannu gwerth £64m.

Bydd caledi gan Lywodraeth Ganolog, mwy o alw am wasanaethau a chostau cynyddol yn golygu bod y broses o bennu cyllideb y cyngor yn fwy anos na'r arfer eleni.

Mae rhagolygon cynnar yn dangos bod bwlch ariannu gwerth £15.3m ar gyfer 2019/20 ynghyd â thoriadau gwerth £72m sydd wedi bod ar waith ers 2010, sy'n golygu bod bwlch ariannol gwerth £63.9m rhwng nawr a 2023, a bydd hyn yn cael effaith fawr ar lefel darpariaeth gwasanaethau y mae preswylwyr wedi ei chymryd yn ganiataol.

Erbyn diwedd y weinyddiaeth bresennol, ceir gwared ar £1 ym mhob £4 a fuddsoddir gan y cyngor mewn gwasanaethau dyddiol yng Nghastell-nedd Port Talbot o'r golofn gwariant, ac o ganlyniad ceir effaith anochel ar y gwasanaethau rheng flaen allweddol y mae nifer o bobl yn dibynnu arnynt.

Er bod yr hen ddywediad yn dweud y dylem "wneud mwy gyda llai o arian", y gwirionedd erbyn hyn yw bod y cyngor ond yn gallu "gwneud llai gyda llai o arian".

Allan o gyfanswm cyllideb gwerth £282.8m eleni, gwariwyd £105.5m (37.7%) ar Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes; gwariwyd £78.6m (27.8%) ar Wasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai; gwariwyd £34.7m (11.9%) ar Wasanaethau Amgylcheddol, a'r gweddill ar bethau fel Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Ariannu Cyfalaf a Chymorth Treth y Cyngor.  Rhoddwyd £7.2m (2.6%) i Wasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru tuag at ei waith yn y fwrdeistref sirol.

Ni fydd yn hawdd cymryd £60m i ffwrdd o'r rhestr hon ond mae'n her y bydd yn rhaid i gynghorwyr a phreswylwyr ei hwynebu mewn modd gonest a realistig.

O ganlyniad, bydd y berthynas rhwng y cyngor a'r cyhoedd yn newid o fod yn un lle mae unigolion a chymunedau'n dechrau cymryd mwy o gyfrifoldeb ac mewn sawl achos, bydd y cyngor yn rhoi cefnogaeth i bobl yn lle rhodd lawn er mwyn cyflwyno darpariaeth yn eu hardaloedd lleol.

Byddwn yn parhau i gyflwyno'r gwasanaethau allweddol y mae pobl yn dibynnu arnynt ond, ar yr un pryd, byddwn yn gofyn i breswylwyr chwarae eu rhan er mwyn lleihau gofynion diangen ar arian cyhoeddus a sicrhau bod pethau'n fwy cost-effeithiol ac yn fwy effeithlon.  O gynyddu lefelau ailgylchu i wario mwy o arian yn yr economi leol, o ymrwymo ymhellach ym mywyd y gymuned leol i ddefnyddio mwy o'n gwasanaethau ar-lein, gellir ond cyflawni'r arbedion cyllidebol os bydd preswylwyr a'r cyngor yn gwneud eu rhan.

Yn gyfnewid, byddwn yn parhau i leihau biwrocratiaeth a mân-reolau diangen, manteisio ar gyfleoedd i gynhyrchu incwm, cydweithio ag awdurdodau cyfagos ac eraill er mwyn gwneud y gorau o arian trethdalwyr a chyflymu digideiddio'n prosesau mewnol ac allanol.

Mae'r cyngor ar gamau cynnar proses y gyllideb, a bydd mwy o gyhoeddiadau yn yr hydref, pan fydd yr ymgynghoriadau difrifol yn dechrau. Yn y cyfamser, bydd ffactorau eraill yn dod yn fwy eglur gan gynnwys Brexit a'r newid mewn ariannu rhanbarthol, dyraniad y cyllid y mae'r cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru a chanlyniadau'r setliadau cyflog ar gyfer ein staff gweithgar.

Heb os nac oni bai, byddwn yn gweld newid mawr dros y blynyddoedd nesaf mewn darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus y mae cymunedau Castell-nedd Port Talbot wedi dod i'r arfer â hi, hyd yn oed yn ystod y blynyddoedd diweddar.

Y Cynghorydd Carol Clement-Williams

Aelod y Cabinet dros Gyllid