Cymorth ar gyfer dros 50 oed
Castell-nedd Port Talbot: Lle gwych I fyw ynddo yn ddiweddarach mewn bywyd
Mae cymunedau bywiog Castell-nedd Port Talbot yn cynnig amgylchedd cefnogol a dymunol i bawb, lle gellir mwynhau ansawdd bywyd iach a phleserus ymhell y tu hwnt i 50 oed. Mae gan y ddogfen ganlynol enghreifftiau o sut mae'r cyngor a phartneriaid yn cefnogi'r rheiny sydd dros 50 oed ac yn byw yn yr ardal.
Lawrlwytho
-
Castell-nedd Port Talbot: Lle gwych i fyw ynddo yn ddiweddarach mewn bywyd (DOC 115 KB)
m.Id: 10376
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Castell-nedd Port Talbot: Lle gwych i fyw ynddo yn ddiweddarach mewn bywyd
mSize: 115 KB
mType: doc
m.Url: /media/4255/castell_nedd_port_talbot.doc
Cyngor Pobl Hŷn Castell-nedd Port Talbot
Cefnogir y Cyngor Sir a'i Bartneriaid gan y Cyngor Pobl Hŷn hefyd, sef grŵp o hyd at 12 o wirfoddolwyr dros 50 oed sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Porth Castell-nedd Port Talbot
Os ydych yn gwybod am oedolyn y mae angen cefnogaeth neu wybodaeth arno er mwyn cynnal neu adennill ei annibyniaeth, gallwch gael mynediad i'r Tîm Adnoddau Cymunedol a Gofal Cymdeithasol trwy wasanaeth ar y cyd â phwynt mynediad cyffredinol, sef Porth Castell-nedd Port Talbot.
Gallwch gael mwy o wybodaeth:
- Porth Castell-nedd Port Talbot
- Ffon: (01639) 686802. (Os ydych yn defnyddio Text Relay/Typetalk, defnyddiwch 18001 yn gyntaf ac yna 01639 686802)
- Ebost: thegateway@npt.gov.uk