
#GwobrauDinasyddionCnPT
Mae’n amser ar gyfer ail Wobrau Dinasyddion y Maer!
Yn dilyn digwyddiad cychwynnol hynod lwyddiannus y llynedd, bydd y gwobrau’n cydnabod arwyr di-glod o bob cwr o Gastell-nedd Port Talbot sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i’n cymunedau.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Yr Orenfa, Parc Margam ar nos Fercher 29 Ebrill, 2020. Rhwng nawr a hynny, dyma eich cyfle i enwebu person neu grŵp cymunedol sydd yn eich barn chi yn deilwng o ennill gwobr.
Enwebiadau’n cau am hanner dydd ar ddydd Llun Ebrill 6.
Meini Prawf a Chanllawiau Categorïau
Mae 10 categori o wobrwyon:
Gallwch enwebu isod. Gallwch hefyd gasglu ffurflenni enwebu yn Adeiladau’r Cyngor a safleoedd Celtic Leisure ledled Castell-nedd Port Talbot.
Bwriad y gwobrau yw cydnabod unigolion neu grwpiau cymunedol sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd yng Nghastell-nedd Port Talbot. Rhaid i bob un sy’n cael ei enwebu naill ai fyw yn y Fwrdeistref Sirol neu fod yn weithgar ynddi. Gellir enwebu pobl mewn mwy nag un categori, a chroesewir hunan-enwebiadau hefyd. Sylwer: bydd enwebiadau'n cau 12:00 yp dydd Llun Ebrill 6ed.
