Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Dogfen

Adran Cynllunio - Darparu Gwasanaeth yn ystod Covid-19

Flwyddyn ar ôl y cyfyngiadau cenedlaethol cyntaf, mae'r Cyfyngiadau Gwasanaeth hyn wedi'u diweddaru i adlewyrchu i ba raddau y mae sefyllfa barhaus Coronafeirws yn parhau i effeithio ar ddarparu gwasanaethau cynllunio (Rheoli Datblygu).

Mae adeiladau'r cyngor yn parhau i fod ar gau i'r cyhoedd, a dim ond nifer bach o staff allweddol dynodedig sydd yn y gwaith, ac yng ngoleuni natur barhaus a digynsail y sefyllfa hon, nid oes gennym unrhyw arwydd o hyd ar hyn o bryd o ran pryd neu ar ba ffurf y bydd y swyddfeydd yn ailagor.

O ran prosesu ceisiadau cynllunio ac ymchwilio i gwynion gorfodi, sylwer bod yr holl dîm Rheoli Datblygu'n parhau i ddilyn cyngor y Llywodraeth ac yn gweithio gartref, cyn belled ag y bo hynny'n ymarferol.

Fodd bynnag, mae arferion gwaith staff wedi'u newid i adlewyrchu'r pandemig a'r canllawiau gan Lywodraeth Cymru, ac er mai blaenoriaeth y cyngor yw diogelu a darparu gwasanaethau hanfodol i'r rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymuned, mae'r Gwasanaeth Rheoli Datblygu'n parhau i weithredu ac yn gwneud hynny'n unol â'r protocol diwygiedig canlynol:-

Ceisiadau cynllunio

Mae gan Swyddogion Cynllunio fynediad at eu rhifau ffôn llinell uniongyrchol drwy eu gliniaduron gartref, ond fe'ch anogir i gyfathrebu drwy e-bost lle bynnag ag y bo'n ymarferol. Gall hyn fod i Swyddogion unigol neu i planning@npt.gov.uk.

Rydym hefyd wedi sefydlu'r rhifau ffôn generig canlynol ar gyfer unrhyw ymholiadau na ellir eu hateb ar-lein yn www.npt.gov.uk/planning, ac nid oes angen swyddog achos penodol arnynt:-

  • Tîm y Gorllewin 01639 686776
  • Tîm y Dwyrain 01639 686777
  • Gorfodi Cynllunio 01639 686779

Mae swyddogion yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddilysu a phenderfynu ar geisiadau cynllunio 'fel arfer', ac yn hyn o beth bydd swyddogion yn parhau i gysylltu â chi.

Dim ond o bell y cynhelir unrhyw gyfarfodydd sy'n angenrheidiol. Mae gan bob Swyddog Cynllunio 'Microsoft Teams' a all hwyluso unrhyw gyfarfodydd o'r fath.

Er y byddwn yn parhau i gofrestru pob cais newydd (ac ymholiadau cyn ymgeisio) a dderbyniwn, mae'n dal yn debygol y bydd unrhyw geisiadau 'papur' a gyflwynir drwy'r post yn cael eu gohirio (oherwydd materion cwarantin a chyfyngiadau ar argaeledd staff mewn swyddfeydd). Felly, fe'ch anogir yn gryf i gyflwyno ceisiadau'n electronig, naill ai drwy Borth Ceisiadau Llywodraeth Cymru neu drwy e-bost i planning@npt.gov.uk.

Yn ogystal, gofynnwn hefyd i'r holl daliadau gael eu gwneud naill ai drwy'r Porth Ceisiadau neu drwy ein hadran taliadau ar-lein ar ein gwefan. Gall talu â siec arwain at oedi pellach wrth gofrestru ceisiadau.

Bydd ceisiadau o'r fath yn cael eu cofrestru a'u cydnabod yn ôl yr arfer, a bydd Swyddogion Achos yn cysylltu ag ymgeiswyr/asiantiaid i drafod achosion unigol.

Mae Llythyrau Hysbysu yn parhau i gael eu cyhoeddi ar bob cais.

Mae Hysbysiadau Safle, sy'n statudol ofynnol, bellach yn cael eu harddangos gan swyddogion (neu fel arall, efallai y byddwn ar adegau yn gofyn i ymgeisydd arddangos hysbysiadau o'r fath, gyda phrawf o'r arddangosfa'n cael ei ddarparu i ddangos cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau)

Wrth ystyried y ffordd orau o ddod â cheisiadau cynllunio i sylw'r cyhoedd, anogir amrywiaeth o ddulliau gan Lywodraeth Cymru, gan ystyried y newid i symudiadau a rhyngweithio cymdeithasol pobl. Yn unol â hynny, ar adegau efallai y byddwn hefyd yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i dynnu sylw at gofrestr gynllunio ar-lein y cyngor sy'n cynnwys manylion yr holl geisiadau sydd gerbron yr awdurdod a/neu geisiadau nodedig.

Er y gohiriwyd yr holl Ymweliadau Safle mewn perthynas â cheisiadau i ddechrau, cyngor Llywodraeth Cymru yw bod ymweliadau o'r fath (lle na ellid cyflawni diben yr ymweliad safle drwy ddulliau eraill) yn esgus rhesymol i deithio at ddibenion y Rheoliadau Coronafeirws (gan na ellir cynnal y rhain gartref). Mae ymweliadau o'r fath yn parhau i gael eu cynnal yn unol â gofynion Rheoliadau Coronafeirws. Yn unol â hynny, hyd nes clywir yn wahanol, bydd Swyddogion Achos yn gweithredu ymweliadau safle fel a ganlyn:

  • Ymweliadau safle lle nad oes angen mynd i mewn i'r safle a nodir ar y cais fydd y ffordd orau o gydymffurfio â'r Rheoliadau Coronafeirws a sicrhau asesiad safle digonol.
  • Cysylltir ag ymgeiswyr/asiantiaid i ofyn am gymorth i ddarparu ffotograffau diweddar, 'cyfarfod' fideo o bell a/neu wybodaeth arall a allai eu cynorthwyo i fynd ymlaen i benderfynu ar geisiadau yn absenoldeb ymweliad safle, (ni ddylid gwneud hyn, fodd bynnag, os yw'n mynd yn groes i ganllawiau'r Llywodraeth ar aros gartref)
  • Os bernir bod ymweliad safle'n 'hanfodol', bydd y Swyddog Achos yn cysylltu â'r Asiant/Ymgeisydd dros y ffôn neu drwy e-bost (yn ôl yr arfer) i drefnu ymweliad safle, gan ofyn am fynediad i'r safle; bod hyn 'ar ei ben ei hun'; a chan nodi na chaniateir cyfarfod wyneb yn wyneb na mynediad drwy adeiladau.
  • Cyn belled â bod modd cynnal yr ymweliad yn unol â Rheoliadau'r Coronafeirws a chanllawiau ar gadw pellter corfforol, yna bydd ymweliad yn cael ei wneud;
    Os na ellir parhau ag ymweliad mwyach o dan ganllawiau o'r fath, yna bydd yr ymweliad yn dod i ben ac ni wneir unrhyw ymweliad pellach
  • Os yw'r cyngor, am ba reswm bynnag, yn barnu nad oes ganddo ddigon o wybodaeth ac na ellir gwneud penderfyniad, gyda'r holl opsiynau uchod wedi'u disbyddu, yna eglurir hyn i'r ymgeisydd/asiant, a chytunir ar ymestyn yr amser, os oes angen.

Pwyllgor Cynllunio

Ers mis Mai 2020, cynhaliwyd holl gyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio o bell gan ddefnyddio Microsoft Teams, fel arfer ar gylch tair wythnos ar ddydd Mawrth am 10am. Gweler Manylion y Pwyllgor - Pwyllgor Cynllunio.

I arsylwi cyfarfodydd yn y dyfodol yn fyw drwy Microsoft Teams bydd angen i chi rag-gofrestru i fod yn rhan o'r oriel gyhoeddus rithwir drwy e-bostio democratic.services@npt.gov.uk erbyn ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd manylion sut i ymuno'n cael eu darparu mewn ymateb.

Caiff pob cyfarfod ei recordio ac maent ar gael i'w gweld ar-lein: Pwyllgor Cynllunio (npt.gov.uk).

Cwynion gorfodi

Er y byddwn yn dal i dderbyn cwynion yn electronig (gan gynnwys drwy ein ffurflen gwyno ar-lein), rydym yn profi ôl-groniad o achosion gorfodi sy'n cymryd peth amser i'w clirio, er gwaethaf buddsoddiad diweddar yn ein gwasanaeth gorfodi.

Yn unol â hynny, mae Swyddogion yn gorfod blaenoriaethu eu hymweliadau/ ymchwiliadau safle, ac yn aml bydd oedi cyn cynnal ymweliadau ar yr achosion hynny nad ydynt yn cael eu hystyried gan swyddogion yn rhai arwyddocaol neu frys (achosion Blaenoriaeth 1 fel y cyfeirir atynt yn ein Siarter Gorfodi Cynllunio).

Dim ond pan fydd Swyddogion yn gallu parhau i gydymffurfio â'r Rheoliadau Coronafeirws a sicrhau asesiad safle digonol y gwneir pob ymweliad safle (heb fod yn seiliedig ar apwyntiad).

Bydd pob ymweliad safle gorfodi lle mae angen rhyngweithio corfforol yn cael ei wneud drwy apwyntiad yn unig (er enghraifft gydag achwynydd) a fydd yn caniatáu i Swyddogion gytuno ar drefniadau i sicrhau y gellir rhoi mesurau diogelu addas ar waith cyn i'r ymweliad safle ddigwydd, gan gynnwys cynnal o leiaf 2 fetr rhwng unigolion bob amser dan do ac yn yr awyr agored.

Er y byddwn yn ceisio ymateb i faterion brys, mae'r amserlenni o fewn Siarter Gorfodi Cynllunio y cyngor wedi'u gohirio dros dro yn ystod argyfwng y Coronafeirws.

Cofiwch ein bod ni, fel Tîm, yn parhau i wneud ein gorau glas i barhau â'r Gwasanaeth yn ystod y cyfnod ansicr hwn, ond byddai eich amynedd, eich dealltwriaeth a'ch cymorth yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.

Diolch o flaen llaw am eich cydweithrediad.