Covid-19 – Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar gau
Yn dilyn cyhoeddi’r Rheoliadau Diogelu echyd (Cyfyngiadau Coronafeirws)(Cymru)(Rhif 7) 2020 (fel y'u diwygiwyd) ar 3 Gorffennaf 2020, gyda nifer o newidiadau, oedd yn cynnwys codi’r cyfyngiadau ar deithio (ond heb eu cyfyngu i hynny), penderfynodd y Cyngor (ar 9 Gorffennaf 2020) ddileu’r trefniadau cau dros dro a oedd yn eu lle ar 17 o’r Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTC) yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Bydd y penderfyniad hwn yn cael ei adolygu’n barhaus, a gallai’r sefyllfa newid os nodir ardaloedd lle mae grwpiau o bobl yn ymgynnull ac yn mynd ati i anwybyddu’r mesurau a bennwyd gan y Llywodraeth.
Mae llawer o HTCiau yn croesi tir preifat, ffermydd gweithredol, ac mewn rhai achosion maent yn agos at gartrefi preifat. Cadwch at y llwybrau, os gwelwch yn dda, cadwch bellter oddi wrth dirfeddianwyr, a daliwch i gadw at y cyfyngiadau a’r mesurau sydd ar waith i’ch diogelu chi ac eraill.
Tir Ffermio – cofiwch na all ein ffermwyr ddewis ble/sut maen nhw’n gweithio a bod y gwanwyn/yr haf yn gyfnod arbennig o brysur iddyn nhw. Maen nhw hefyd yn debygol o fyw mewn adeiladau sy’n agos at lwybrau, felly gofynnwn i chi gadw at y mesurau pellter cymdeithasol presennol wrth ddefnyddio’r llwybrau troed. Cyfeiriwch at ein hysbysiad cynghori, y gall tirfeddianwyr ei ddefnyddio i atgoffa defnyddwyr am ofynion cadw pellter cymdeithasol. Mae angen i ni gydweithio i gadw cynifer o lwybrau â phosib ar agor.
Bydd unrhyw hysbysiadau yn y dyfodol ynghylch cau HTC dros dro o dan fesurau argyfwng COVID-19 yn cael eu cyhoeddi yma, a bydd hysbysiadau’n cael eu postio ar y safle
Hysbysiad ymgynghorol y gall tirfeddianwyr ei lawrlwytho a ddefnyddio:
Lawrlwytho
-
Arwydd Mynediad Cyhoeddus (PDF 209 KB)
m.Id: 23452
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Arwydd Mynediad Cyhoeddus
mSize: 209 KB
mType: pdf
m.Url: /media/13496/covid-19-public-access-sign-welsh.pdf
Cyfeirnod HTC | Plwyf (Rhif) | Ward | Hysbysiad Safle (Yn Saesneg) | Map (Yn Saesneg) |
---|---|---|---|---|