Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Dogfen

Hysbysiad Preifatrwydd COVID-19

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (fel Rheolwr y Data) yn casglu, yn defnyddio ac yn diogelu data personol yn benodol o ran y pandemig
coronafeirws.

Mae'r cyngor eisoes yn cadw data ar ddinasyddion, gweithwyr a rhanddeiliaid.

Lle mae gennym wybodaeth eisoes am bobl ddiamddiffyn fel y'i diffinnir yn y canllawiau cyfredol gan y Llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, gallwn rannu hyn at ddibenion cynllunio rhag argyfyngau neu i
ddiogelu'ch buddion hanfodol drwy ei rhannu â gwasanaethau y tu mewn a'r tu allan i'r cyngor.

Yn ystod yr argyfwng presennol, mae'n bosib y bydd angen i ni ofyn i chi am ddata personol a fydd yn cynnwys data personol sensitif nad ydych wedi'i rhoi yn barod - er enghraifft, eich oed neu os oes gennych unrhyw salwch sylfaenol neu os ydych yn ddiamddiffyn. Y rheswm am hyn yw fel bod y cyngor yn gallu'ch helpu chi a blaenoriaethu ei wasanaethau.

Os oes gennym wybodaeth sy'n dangos eich bod yn ddiamddiffyn yn y pandemig presennol, efallai byddwn yn cysylltu â chi i sicrhau eich diogelwch ac i'ch cynorthwyo lle y bo modd.

Gallwch weld prif Hysbysiad Preifatrwydd y cyngor sy'n cynnwys rhagoro wybodaeth am sut rydym yn casglu, yn defnyddio ac yn diogelu data personol yn gyffredinol, yn ogystal â'ch hawliau fel gwrthrych y data.

Grwpiau Risg Uchel Covid-19

Mae data personol yn cael ei gasglu i asesu a darparu cefnogaeth i oedolion, plant a phobl ifanc sydd yn y categorïau risg uchel ac a fyddent yn cael eu hystyried yn ddiamddiffyn pe baent yn cael eu heintio
â coronafeirws.

Asesu a darparu cefnogaeth i staff

Mae data personol yn cael ei gasglu i alluogi'r cyngor i adnabod unrhyw staff (neu'r rheini sydd â chyswllt agos â staff/dibynyddion) sydd yn y categorïau risg uchel ac a fyddent yn cael eu hystyried yn ddiamddiffyn pe baent yn cael eu heintio â coronafeirws.

Beth yw'r sail gyfreithiol i'n defnydd o'ch gwybodaeth bersonol?

Mae'r rhan fwyaf o'r wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu yn cael ei rhoi'n uniongyrchol i ni gennych chi, dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Dyma'r sylfeini cyfreithiol rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer defnyddio'ch gwybodaeth bersonol:

  • Erthygl g (d) y GDPR - mae angen i ni ddiogelu'ch buddion hanfodol
  • Erthygl 6 (e) y GDPR - mae arnom ei hangen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus.


Pan fyddwn yn casglu data am eich iechyd, rydym hefyd yn dibynnu ar y sylfeini cyfreithiol canlynol:

  • Erthygl 9 (2) (i) y GDPR - mae angen i ni ei gasglu ar gyfer iechyd cyhoeddus
  • Erthygl 9 (2) (j) y GDPR - mae angen i ni ddadansoddi'ch gwybodaeth

Eich hawliau

O dan y ddeddf diogelu data, mae gennych hawliau gan gynnwys:

  • Eich hawl i fynediad - mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol.
  • Eich hawl i gywiriad - mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth sy'n anghywir yn eich tyb chi. Mae gennych yr hawl hefyd i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy'n anghyflawn yn eich tyb chi.
  • Eich hawl i gyfyngiad ar brosesu - mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu'ch gwybodaeth mewn rhai amgylchiadau.
  • Eich hawl i wrthwynebu prosesu - mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu'ch data personol mewn rhai amgylchiadau.
  • Nid oes angen i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau. Os ydych yn gwneud cais, mae gennym fis i ymateb i chi.

 phwy i gysylltu os oes gennych bryderon ynghylch sut mae eich data'n cael ei brosesu.

Gallwch gysylltu â Thîm Diogelu Data CBSCNPT neu gysylltu'n uniongyrchol â Swyddog Diogelu Data CNPT:

E-bost: dpo@npt.gov.uk

Drwy'r post: Swyddog Diogelu Data, CBSCNPT, Canolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ

Mae gennych hawl hefyd i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth gan ddefnyddio'r manylion canlynol: Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG)

Drwy'r post: The Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF

Ffôn: 0330 414 6421