Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad Hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i gynnwys a gyhoeddir ar www.npt.gov.uk

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot. Rydym am i gynifer â phosib o bobl fod yn gallu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech fod yn gallu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo mewn i hyd at 300% heb fod y testun yn mynd oddi ar y sgrîn
  • defnyddio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • defnyddio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrîn (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan?

Gwyddwn nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • ni allwch addasu uchder y llinell neu'r bylchau testun
  • nid yw'r rhan fwyaf o ddogfennau PDF yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenwyr sgrîn
  • nid oes gan ffrydiau fideo byw gapsiynau
  • mae'n anodd defnyddio rhai o'n ffurflenni ar-lein gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig

Rydym wrthi'n gwneud gwelliannau i hygyrchedd y wefan hon.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os bydd angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon arnoch mewn fformat arall fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu Braille, cysylltwch â ni:

Ysgrifennwch atom:

CBS Castell-nedd Port Talbot
Canolfan Ddinesig
Port Talbot
SA13 1PJ

 contactus@npt.gov.uk

 01639 686868

Rydym yn cymryd yr holl adborth o ddifrif ac yn edrych ymlaen at dderbyn eich awgrymiadau.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi

Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon.

Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os cewch unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni

Ar waelod pob tudalen mae dolen i ffurflen gyswllt o'r enw "gwerthuso’r dudalen". Os ydych yn cael problem benodol gyda rhan o'r wefan hon, defnyddiwch y ffurflen honno. Sylwer na fyddwn yn gallu ymateb i chi oni bai eich bod yn gadael manylion cyswllt.

Gweithdrefn gorfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltwch â ni dros y ffôn neu galwch heibio i'n gweld yn bersonol

Rydym yn darparu gwasanaeth trosglwyddo testun ar gyfer pobl sy'n fyddar, â nam ar eu clyw neu nam ar eu lleferydd.

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni clyw, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gwybodaeth am sut i gysylltu â ni

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ymrwymedig i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We oherwydd yr achosion o beidio â chydymffurfio a restrir isod   

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF

Nid yw rhai dogfennau'n gwbl hygyrch.

  • Nid yw nifer bach o ddogfennau PDF yn cynnwys H1. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1
  • Nid yw nifer bach o ddogfennau PDF yn dilyn trefn resymegol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1
  • Nid yw rhai dogfennau PDF yn ddarllenadwy i beiriant. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.1.1
  • Mae gan rai dogfennau PDF deitlau gwan. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.2
  • Nid yw rhai dogfennau PDF yn cynnwys nodau tudalen i gynorthwyo gwe-lywio. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.5
  • Nid yw rhai dogfennau PDF yn nodi iaith ddiofyn. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 3.1.1
  • Nid yw rhai dogfennau PDF wedi'u tagio. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1
  • Nid yw rhai dogfennau PDF yn cynnwys teitl. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.2
  • Nid yw rhai dogfennau PDF yn cynnwys penawdau. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1

Rydym yn bwriadu datrys y problemau uchod erbyn mis Hydref 2023.

Rydym yn defnyddio offeryn Silktide i fonitro unrhyw broblemau sy'n ymwneud â hygyrchedd a'n nod yw datrys unrhyw broblemau sydd wedi'u canfod cyn gynted â phosib. Rydym yn defnyddio gwiriwr hygyrchedd Adobe Pro i wirio'r dogfennau PDF

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw ddogfennau newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.

Bydd unrhyw ddogfennau newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd a lle bo'n bosibl, rhydym yn cyhoeddi dogfennau ar ffurf HTML.

Systemau a chymwysiadau Trydydd Parti

Rhydym yn cysylltu â ac yn defnyddio cynnwys a ddarperir gan wefannau eraill ac nid yw'r rhain bob amser mor hygyrch. Mae'r rhain yn cynnwys:-

  • Taliadau ar-lein Capita
  • Modern.gov gwybodaeth, cyfarfodydd, agendâu a chofnodion Cynghorwyr
  • Llyfrgell ar-lein
  • Porth Cynllunio

Rhydym wedi dechrau trafodaethau gyda'n cyflenwyr i fynd i'r afael â materion hygyrchedd ar systemau rhydym wedi'u prynu ganddynt.

Baich anghymesur

Ar hyn o bryd nid ydym wedi gwneud unrhyw hawliadau baich anghymesur.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Nid yw llawer o'n dogfennau PDF a Word hŷn yn bodloni safonau hygyrchedd - er enghraifft, efallai nad ydynt wedi'u strwythuro fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrîn. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2 (enw, gwerth rôl).

 Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.

Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Cynhelir profion gwefan gan ein Tîm Gwe er mwyn cydymffurfio â lefel A ac AA fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We.

Rydym yn defnyddio offeryn Silktide i fonitro unrhyw broblemau sy'n ymwneud â hygyrchedd a'n nod yw datrys unrhyw broblemau sydd wedi'u canfod cyn gynted â phosib. Rydym yn defnyddio gwiriwr hygyrchedd Adobe Pro i wirio'r dogfennau PDF

Rydym yn parhau i weithio gyda'r Ganolfan Hygyrchedd Digidol i sicrhau bod ein gwefan yn hygyrch i gynifer o bobl â phosib, ni waeth beth fo'u technoleg neu eu gallu. 

Ym mis Hydref 2021, mae'r Ganolfan Hygyrchedd Digidol yn cynnal profion hygyrchedd pellach. Bydd hyn yn cynnwys profion awtomataidd (os yw'n briodol), ynghyd ag archwiliad cydymffurfio â llaw arbenigol A phrofion gan ddefnyddwyr ag amrywiaeth o anableddau

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 15 Hydref 2020. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 27 Chwefror 2023.

Mae Silktide yn profi ein safle bob mis. I weld yr adroddiad diweddaraf, ewch i'rdudalen ganlyniadau ar wefan Silktide (yn agor mewn ffenestr newydd).

Mae ein Tîm Digidol yn defnyddio Offeryn Gwerthuso WAVE ar gyfer gwirio gwedudalennau unigol, ac offeryn Silktide ar gyfer gwirio a monitro statws hygyrchedd y wefan gyfan.

Mae sampl o gynnwys ein gwefan yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd i ddiweddaru a chyfrifo gwefan cyngor Castell-nedd Port Talbot ar fynegai Silktide

Profwyd y wefan hon ddiwethaf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol ar 19eg Hydref 2021.

Aseswyd detholiad o wedudalennau Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn erbyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We WCAG 2.1.