Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Hysbysiad Preifatrwydd - Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch

  1. Drwy roi eich gwybodaeth bersonol i ni rydych yn cydnabod trwy hyn mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r Rheolwr Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon (at ddiben Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016 (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA)).
  2. Bydd y data personol rydym yn ei gasglu gennych trwy'r ffurflen hon yn cael ei ddefnyddio gan y cyngor (yn unol â'i rwymedigaeth i gyflawni ei swyddogaethau statudol a busnes amrywiol) at y dibenion canlynol:
    Rôl y Tîm Rheoli Digwyddiadau/Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch yw goruchwylio cofrestru digwyddiadau awyr agored a gynhelir yn y fwrdeistref sirol. Prif rôl y Tîm Rheoli Digwyddiadau/Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch yw darparu cyngor arbenigol o fewn yr awdurdod lleol i'w helpu i weithredu ei ddyletswyddau o dan ddeddfwriaeth digwyddiadau cyhoeddus. Mae'r grŵp yn ystyried yr holl faterion yn ei gylch gwaith ac yn cynnig argymhellion i unrhyw bwyllgor/wasanaeth priodol yn yr awdurdod lleol. Mae hyn yn sicrhau yr ystyrir diogelwch ac yn y pendraw lwyddiant cyffredinol y digwyddiad a gynhelir.
  3. Fel rheolwr data, mae'n ofynnol i'r cyngor, o dan y GDPR, eich hysbysu o ba rai o "Amodau Prosesu Data" Erthygl 6 y GDPR y mae'n dibynnu arnynt i brosesu'ch data personol yn gyfreithlon. Yn hyn o beth, sylwer mewn perthynas â'r data a ddarperir gennych chi ar y ffurflen hon ein bod yn dibynnu ar y ddau amod canlynol yn Erthygl 6:
    i. "Mae'r prosesu data'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae'r rheolwr yn destun iddo." (Erthygl 6(c) y GDPR).
    ii. "Mae'r prosesu data'n angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wneir er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol a ymddiriedir i'r rheolwr." (Erthygl 6(e) y GDPR).
  4. Gallwn rannu eich data personol yn ddiogel â'r trydydd partïon canlynol (h.y. pobl/cyrff/endidau y tu allan i'r cyngor) yn unol â'r trefniadau rhannu data sydd gennym ar waith gyda'r trydydd partïon hynny
    Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yr Heddlu, Gwasanaeth Tân, Ambiwlans, GIG/Meddygon Teulu, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, yr RNLI, a Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru.
  5. Bydd yr wybodaeth bersonol a gesglir oddi wrthych yn cael ei chadw gan y cyngor am gyfnod o 25 blynedd ar ôl dyddiad y digwyddiad.
  6. Sylwer bod gofyn i ni gasglu data personol penodol yn unol â gofynion statudol ac mewn achosion o'r fath gall eich methiant i roi'r wybodaeth honno i ni arwain at anallu'r cyngor i ddarparu gwasanaeth i chi a/neu gallech wynebu achos cyfreithiol.
  7. Byddem yn eich hysbysu bod gennych yr hawl, o dan Erthygl 21 y GDPR, i wrthwynebu i'r awdurdod ar unrhyw adeg am y ffaith ein bod yn prosesu'ch data personol at ddibenion cynnal tasg gyhoeddus neu arfer ein hawdurdod swyddogol.
  8. Ni fydd y cyngor yn trosglwyddo unrhyw ran o'ch data personol y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu unrhyw wlad arall â phenderfyniad digonolrwydd. Bydd holl waith prosesu'ch data gennym ni'n cael ei wneud yn Ardal Economaidd Ewropeaidd y Deyrnas Unedig neu unrhyw wlad arall â phenderfyniad digonolrwydd.
  9. Ni fydd y cyngor yn defnyddio'ch data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.
  10. Sylwer, o dan y GDPR, y rhoddir yr hawliau canlynol i unigolion mewn perthynas â'u data personol:
    i. Yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan reolwr data.
    ii. Yr hawl i gywiro data gwallus gan reolwr data.
    iii. Yr hawl i ddileu eu data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
    iv. Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolwr data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
    v. Yr hawl i wrthwynebu i'w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.
    vi. Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data'n electronig i reolwr data arall).
    Gellir cael mwy o wybodaeth am yr holl hawliau uchod ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth: www.ico.org.uk.
  11. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein defnydd o'ch data personol, os rydych yn dymuno cael mynediad at yr un data neu os rydych am wneud cwyn am brosesu'ch data personol, ysgrifennwch at Swyddog Diogelu Data'r cyngor yn y cyfeiriad canlynol: Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, Canolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ.
  12. Sylwer os ydych yn cyflwyno cais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data'r cyngor (gweler rhif 9 uchod) ac rydych yn anfodlon ar ymateb y cyngor, mae hawl gennych i gwyno'n uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd a mwy o wybodaeth am eich hawliau ar wefan y comisiynydd yn www.ico.org.uk.