Clybiau y tu allan i'r ysgol a gofal dechrau a diwedd dydd
Mae clybiau cofrestredig y tu allan i'r ysgol yn cael eu cynnal mewn ysgolion lleol neu'n agos atynt.
Mae clybiau y tu allan i'r ysgol yn cynnwys:
- Clybiau ar ôl ysgol - mae llawer o glybiau'n cynnwys
gwasanaeth casglu o ysgolion lleol. - Clybiau gwyliau - ar agor yn ystod gwyliau'r ysgol.
- Clybiau brecwast - yn cynnig brecwast i blant gyda ffrindiau,
cyn diwrnod prysur yn yr ysgol.
Mae clybiau y tu allan i'r ysgol yn amgylchedd hamddenol lle gall plant gymryd rhan mewn gweithgareddau, gwneud eu gwaith cartref a mwynhau amser gyda'u ffrindiau.
Gall costau gofal plant amrywio ac efallai y byddwch yn gallu hawlio cymorth er mwyn talu am gostau gofal plant. Gwiriwch a ydych yn gymwys i dderbyn Credyd Treth Cynhwysol.
Os oes angen cyngor neu gefnogaeth arnoch wrth ddod o hyd iofal plant neu os oes angen cymorth gyda materion ariannol arnoch, ewch i'n gwefan neu gysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.