Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Dogfen

Cyfarfod Tasglu Ysgol Godre’r Graig – 21.08.2019

Mynychwyr

Cynghorwyr

  • R.G Jones (Arweinydd) - Arweinydd y Cyngor
  • P.A. Rees (PR) - Aelod Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant
  • E.V. Latham (EL) - Aelod Cabinet dros Strydlun a Pheirianneg
  • L. Jones (LJ) - Aelod y Cabinet ar gyfer Diogelwch Cymunedol a Diogelu’r Cyhoedd

Swyddogion

  • Steven Phillips (SP) - Prif Weithredwr
  • Gareth Nutt (GN)  - Cyfarwyddwr yr Amgylchedd 
  • Aled Evans (AE) - Cyfarwyddwr Addysg
  • Nicola Pearce (NP) - Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd
  • Craig Griffiths (CG)- Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Andrew Thomas (AT) - Pennaeth Trawsnewid
  • Simon Brennan (SB) - Pennaeth Eiddo ac Adfywio
  • Dave Griffiths (DG) - Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth
  • Huw Jones (HJ) - Pennaeth Gwasanaethau Ariannol
  • Robin Turner - Parther Busnes Cyfathrebu Corfforaethol 
  • Neil Evans (NE) - Uwch-swyddog Gweithredol
  • Clive Barnard (CB) - Rheolwr Cynllunio a Phrosiectau Pensaernïol

Nodiadau Gweithredu Cyfarfod 1 Awst

Nododd yr arweinydd fod y nodiadau gweithredu wedi cael eu cytuno y tu allan i’r cyfarfod oherwydd amseru, er mwyn gallu cyhoeddi’r wybodaeth ar y cyfle cyntaf ar ôl y cyfarfod blaenorol.

Materion yn Codi

Dywedodd AE fod materion staffio wedi’u cwblhau’n gyffredinol, ac y cytunwyd y byddai’r cogydd yn gweithio ar sail cyflenwi ac yn cael ei hanfon i weithio ble bynnag yr oedd galw yn ystod y cyfnod. Byddai’r cynorthwy-ydd cegin yn gweithio yng Nghwmtawe, am y byddai angen iddi gynorthwyo gyda gweini bwyd i’r plant a drosglwyddwyd.

O ran staff y clwb brecwast, er na fyddai clwb brecwast ffurfiol yn y safle dros-dro, byddai’r staff sy’n gweithio yn y clwb brecwast yn cael eu cyflogi i baratoi a gweini byrbrydau canol bore i’r plant.

Gofynnodd yr Arweinydd am gael cylchredeg costau i’r grŵp cyn gynted ag y bydden nhw ar gael, ond yn fwy pwysig, fod yr adran gyllid yn hwyluso cais posib i Lywodraeth Cymru er mwyn adfer unrhyw gostau addas.

Aeth CB ymlaen i ddweud fod y cyntaf o bedair uned wedi cael ei chyflenwi ar ddydd Gwener 16 Awst, ail uned wedi’i chyflenwi ar ddydd Mawrth 20 Awst, a bod disgwyl i’r drydedd a’r bedwaredd gyrraedd ar 22 a 27 Awst yn eu tro.

Nodwyd ymhellach y byddai Western Power ar y safle ar 23 Awst i ddarparu pŵer i’r unedau. Roedd gwaith yn digwydd ar fyrder er mwyn sicrhau y bydd yr unedau’n barod ac yn addas, wrth i staff weithio shifftiau 12 awr. Mae hyn yn golygu fod y prosiect, fel y mae ar hyn o bryd, yn glynu wrth amserlen a fydd yn gweld trosglwyddo’n digwydd ar 6 Medi ar yr hwyraf; serch hynny, mae ymdrechion pawb yn dal i gael eu canolbwyntio ar agor ar 4 Medi.

Holodd yr Arweinydd pryd fydd hi’n addas i staff yr ysgol allu ymweld â’r safle er mwyn cynefino â’r lle. CB i gydlynu gydag AT ar hyn.

Darparodd DG ddiweddariad ar drafnidiaeth ysgol, a nodwyd fod yr holl drefniadau yn eu lle gyda’r gweithredwyr trafnidiaeth. Nodwyd y byddai’r ddarpariaeth ar gyfer plant Meithrin yn cael ei fonitro i sicrhau fod digon o blant yn ei ddefnyddio, ac os oedd y rhifau’n isel, y byddai trafodaeth yn digwydd gyda’r gweithredwr i ddarparu cerbyd yn llai, o bosib.

Aeth DG yn ei flaen i ddweud fod yr ysgol yn ymwybodol o’r trefniadau ac y byddai rhieni’n cael gwybod dros y dyddiau nesaf, yn unol â phob rhiant ledled y Fwrdeistref Sirol, o ran eu gofynion trafnidiaeth.

Awgrymwyd nad oedd y cyfathrebiad wedi cyrraedd pob un a ddylai fod wedi’i dderbyn. Serch hynny, cytunwyd fod y Cyngor wedi defnyddio pob llwybr posib, a’i fod yn fodlon fod yr wybodaeth berthnasol wedi cael ei mynegi i bawb. Cytunwyd ei bod hi bellach yn bryd paratoi nodyn ‘sefyllfa bresennol’ a fyddai’n cynnwys gwybodaeth benodol ynglŷn â’r gwaith a ddigwyddodd hyd yn hyn, y trefniadau trafnidiaeth, y camau nesaf, ac i dynnu sylw at y sianelau cyfathrebu swyddogol â’r Cyngor. CB, AT ac RT i ddrafftio a chyhoeddi ar y cyfle cyntaf. Cytunwyd y dylid postio’r diweddariad hwn at gyfeiriadau cartref rhieni.

Unrhyw fater arall

Dywedodd AE wrth y grŵp fod swyddogion yn yr ysgol heddiw i drafod gofynion symud yr offer angenrheidiol gyda chwmni symud celfi, pan fyddai’r unedau’n barod.

Dywedodd DG fod gwaith yn dechrau ar dynnu llystyfiant o’r chwarel er mwyn galluogi i ESP osod eu hoffer profi yno. Holwyd a fyddai hyn yn golygu y byddai’r tir yn mynd yn fwy ansefydlog, a chadarnhawyd fod y gwaith yn angenrheidiol, ac y byddai’r contractwyr yn cynnal asesiadau safle-benodol cyn lleoli’u hoffer ac na fydden nhw’n rhoi’u hoffer na’u gweithwyr mewn perygl os dyna fyddai’r achos.

Dywedodd NP mai dim ond un gwrthwynebiad oedd wedi cael ei dderbyn yn erbyn y cais cynllunio, oddi wrth Gyngor Tref Pontardawe ar sail cynnydd mewn trafnidiaeth, ac y dylid lleoli’n nes at safle’r ysgol wreiddiol. Serch hynny, dylid nodi nad oedd yr Aelodau Lleol yn gwrthwynebu’r cais, a bellach rhoddwyd caniatâd cynllunio dan rymoedd Panel Dirprwyol.

Holwyd pryd oedd y dyddiad hwyraf posib y byddai angen i’r Cyngor roi gwybod i rieni am y dyddiad agor. Cytunwyd y byddai hynny’n digwydd tua chanol neu ddiwedd wythnos nesaf, ac y byddai cyfarfod pellach o’r tasglu hwn ddydd Mercher neu Iau wythnos nesaf yn gallu gwneud y penderfyniad hwnnw.

Dymuniad yr Arweinydd oedd cofnodi’n swyddogol fod y Cyngor wedi gwneud gwaith rhagorol o ddatblygu ysgol newydd o ddim, i bob pwrpas, a bod hyn wedi tynnu sylw at y modd y gall adrannau oresgyn rhwystrau a chydweithio er budd nod cyffredin.

Roedd yr Arweinydd hefyd am i’w ddiolch personol ef gael ei fynegi i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect hwn. Cytunwyd y dylid nodi’r gweithredoedd canlynol:

  • SG ac NE i gyhoeddi / cylchredeg nodiadau gweithredu;
  • CB i gysylltu ag AT o ran trefnu ymweliad staff â’r safle pan fyddai’n gyfleus.
  • AT, CB ac RT i ddrafftio nodyn ‘sefyllfa bresennol’ ar gyfer ei gyhoeddi a’i 
    gylchredeg ymysg pawb oedd â diddordeb.
  • Bod pob aelod perthnasol o staff yn nodi ac yn adrodd am gostau ychwanegol a wariwyd oherwydd adleoli Ysgol Godre’r Graig dros dor at y Cyfarwyddwr Cyllid neu gynrychiolydd iddo, a hynny wrth fynd ymlaen.

Y cyfarfod nesaf i’w gynnal o fewn wythnos.