Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Dogfen

Cyfarfod Tasglu Ysgol Godre’r Graig – 11.07.2019

Mynychwyr

Cynghorwyr

  • R.G Jones (Arweinydd) - Arweinydd y Cyngor
  • A.J. Taylor (AJT) - Dirprwy Arweinydd y Cyngor
  • P.A. Rees (PR) - Aelod Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant
  • E.V. Latham (EVL) - Yr Aelod Cabinet ar gyfer y Strydlun a Pheirianneg
  • L. Jones (LJ) - Aelod y Cabinet ar gyfer Diogelwch Cymunedol a Diogelu’r Cyhoedd

Swyddogion

  • Steven Phillips (SP) - Prif Weithredwr
  • Gareth Nutt (GN)  - Cyfarwyddwr yr Amgylchedd 
  • Aled Evans (AE) - Cyfarwyddwr Addysg
  • Simon Brennan (SB) - Pennaeth Eiddo ac Adfywio
  • Nicola Pearce (NP) - Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd
  • Craig Griffiths (CG)- Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Andrew Thomas (AT) - Pennaeth Trawsnewid
  • Dave Griffiths (DG) - Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth
  • Robin Turner - Parther Busnes Cyfathrebu Corfforaethol 
  • Neil Evans (NE) - Uwch-swyddog Gweithredol
  • Sylvia Griffiths (SG) - Ymgynghorydd Marchnata a Chyfathrebu Strategol 
  • Rhiannon Crowhurst (RC) - Swyddog Prosiect Trawsffurfio
  • Peter Curnow (PC) - Swyddog Prosiect Trawsffurfio

Agorodd yr Arweinydd y cyfarfod trwy ddweud ei fod yn gobeithio bod pawb wedi darllen yr adroddiad a ddosbarthwyd ymlaen llaw, a gofynnodd a oedd unrhyw gwestiynau.

Nododd AJT yr argymhellion mewn perthynas â chlirio llystyfiant a gwaith lliniaru, a gofynnodd am amserlenni a chostau, os oedd modd.

Dywedodd DG, yn dilyn ymweliad â’r safle ddoe (10 Gorffennaf), y byddai angen rhyw 3 mis i glirio’r llystyfiant, ac ar ben hynny byddai angen 3 mis arall ar gyfer yr astudiaeth maes. Fodd bynnag, oherwydd bod y safle mor serth gallai fod angen cyfarpar arbenigol i gael mynediad iddo, ac nid oedd llawer o’r cyfryw unedau ar gael ar draws y wlad. Felly’n ymarferol, byddai’n cymryd tua 9 mis i wneud y gwaith dan sylw.

Ni fyddai modd amcangyfrif cost y gwaith ar hyn o bryd.

Dylid nodi hefyd bod y Cyngor yn awgrymu bod amcangyfrif o ryw 40,000 tunnell o wastraff chwarel ac is-ddeunydd cysylltiedig a llystyfiant yn yr ardal dan sylw.

Aeth yr Arweinydd ymlaen i ofyn i’r rhai oedd yn bresennol nodi NAD oedd gwneud dim byd yn opsiwn.

Roedd angen i’r cyfarfod hwn ystyried camau gweithredu/blaenoriaeth ar unwaith a hefyd gamau gweithredu/blaenoriaethau tymor hwy.

I roi’r mater yn ei gyd-destun, llithrodd ardal ger Heol Cyfyng pan na chafwyd fawr ddim glaw, ac roedd honno’n ardal risg isel. Mae’r risg yma’n un ganolig, felly mae bygythiad amlwg.

Dywedodd SP mai’r flaenoriaeth yw symud y plant o’r safle ar unwaith ac nad oes dewis ond cau’r ysgol yn syth. Dywedodd CG, o safbwynt cyfreithiol, fod angen i unrhyw achos o gau ysgol yn y tymor hir neu lle gallai ysgol gau yn y tymor hir fod yn destun proses ymgynghori ffurfiol gan y Cyngor, yn unol â’r gofynion deddfwriaethol. Fodd bynnag, gallai’r adeilad gael ei wacáu, ond bod yr ysgol yn parhau’n endid ynddi ei hun, a bod y plant yn cael eu haddysg gan yr ysgol mewn lleoliad gwahanol.

Byddai’r ysgol yn parhau, ond mewn lleoliad gwahanol.

Cytunodd pawb y dylai’r ysgol gau i’r disgyblion a’r staff heddiw. Byddai AE a PR yn mynd i’r ysgol i siarad â’r Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr gyda chopïau o lythyr ynghylch cau’r ysgol.

Bydd yr Arweinydd yn cysylltu â’r Aelodau lleol, yr ACau a’r ASau.

Dywedodd SG fod angen i ni dynnu sylw at y ffaith bod yr adroddiad wedi dod i law’r Arweinydd ddoe, a’n bod ni, y cyngor, yn gweithredu heddiw. Byddai SG yn sicrhau bod adroddiadau a chyfathrebu perthnasol yn cael eu lanlwytho i wefan y Cyngor.

Cytunwyd y byddai NP yn cysylltu â DG mewn perthynas â’r ymholiadau posibl gan drigolion oedd yn byw ger yr ysgol.

Pwysleisiodd yr Arweinydd bwysigrwydd bod yn barod i ymateb i’r cyfryngau er mwyn sicrhau bod unigolion yn ymwybodol o’r penderfyniad yr oedd angen ei gymryd, a’i fod yn awyddus i siarad â’r BBC cyn gynted â phosibl.

O ran iaith a manwl gywirdeb cytunwyd y dylid cyfeirio at adleoli’r plant yn hytrach na chau’r ysgol, gan mai dyna’r cynnig sydd dan sylw, a’r flaenoriaeth yw ymdrin â’r risgiau presennol. Symudodd y drafodaeth i’r opsiynau tymor hwy. Dywedodd AE fod 3 opsiwn posibl. Er y byddai opsiynau eraill yn cael eu hystyried, y 3 ar hyn o bryd fyddai:

  • Ysgol Gyfun Ystalyfera – Adeiladau Dros Dro
  • Parc Ynys Derw – Adeiladau Dros Dro
  • Neuadd Bowls Pontardawe

Nodwyd ymhellach y byddai modd cael gafael ar adeiladau dros dro mewn pryd ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd. Fodd bynnag, nododd SB mai’r broblem yw eu cysylltu â chyfleustodau. Byddai SB yn cysylltu ag Addysg ac AE yn penderfynu ar yr opsiwn a ffafrir, p’un ai un o’r tri uchod neu ryw ddewis arall, cyn gynted â phosibl.

Nododd AE y gallai fod angen darparu cefnogaeth iechyd a llesiant emosiynol i’r disgyblion a’r staff.

Gofynnodd DG a ddylid rhoi rhybudd o 7 niwrnod i berchennog y domen. Cytunwyd y gallai hynny aros tan ddydd Llun (15 Gorfennaf), ac y byddai camau’n cael eu cymryd i roi’r cyfryw fesurau ar waith, ond y flaenoriaeth oedd diogelu’r staff a’r plant yn yr ysgol.

NE i drefnu’r cyfarfod nesaf o fewn yr wythnos.