Ystad Diwydiannol Gurnos
Mae'r ystâd ddiwydiannol hon ym mhen uchaf Cwm Tawe, ger Ystalyfera ac i'r gogledd o brif ardal siopa Pontardawe mewn ardal sy'n boblogaidd ar gyfer adeiladau diwydiannol.
Mae'r A4067 a'r A4068 gerllaw a chysylltiadau trafnidiaeth rhagorol â Rhydaman, Abertawe, coridor yr M4 a Ffordd Blaenau'r Cymoedd i Aberhonddu.
Mae pob uned yn 1,000 tr. sgwâr fwy neu lai, gyda swyddfa, cyfleusterau toiledau a drysau rholio.
Sylwer bod TAW yn berthnasol i'r holl daliadau sy'n ymwneud ag unedau 4 i 10 yn yr ystâd hon.
Lleoliad
Ystad Diwydiannol Gurnos, Ystalyfera, SA9 2JA
O G43 yr M4, dilynwch yr A4067, i Bontardawe. Ar y cylchdro nesaf, parhewch yn eich blaen i Bontardawe. Ar y pedwar cylchdro nesaf, parhewch yn eich blaen. Ar y pumed cylchdro, cymerwch yr allanfa 1af i'r A4068 ac mae'r ystâd ar y chwith yn fuan wedi gadael y cylchdro.
Mwy o wybodaeth
Cysylltwch â:
Y Ceiau
Ffordd Brunel
Parc Ynni Baglan
Castell-nedd SA11 2GG pref