Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Dogfen

Clyfar a chysylltiedig strategaeth ddigiodol 2018-22

Adeiladu clyfar a chysylltiedig CNPT

Mae chwyldro digidol ar waith ledled y byd.

Rydym am sicrhau bod ein bwrdeistref sirol yn manteisio'n llawn ar fuddion technolegau newydd.

Mae'r strategaeth hon yn amlinellu'r camau nesaf rydym yn bwriadu eu cymryd i wneud ein bwrdeistref sirol yn gall ac yn gysylltiedig.

Y Cyng. Doreen Jones
Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Chydraddoldeb Rhagfyr 2018

Ein huchelgais digidol

Mae'r cyngor wedi nodi tair blaenoriaeth i wneud ein bwrdeistref sirol yn gall ac yn gysylltiedig:

Blaenoriaeth 1

Trawsnewid y ffordd rydym yn cyflwyno'n swyddogaethau/gwasanaethau a chynyddu defnydd preswylwyr o swyddogaethau/ gwasanaethau ar-lein y cyngor;

Blaenoriaeth 2

Cyfrannu at ddatblygu amodau ffafriol ar gyfer twf economaidd yn y fwrdeistref sirol;

Blaenoriaeth 3

Croesawu'r ymagwedd "digidol yn gyntaf" at y ffordd y cefnogir ein gweithl

 

Egwyddorion - Pobl

  • Caiff meddwl digidol ei wreiddio ar draws y cyngor cyfan - byddwn yn mabwysiadu ymagwedd “digidol yn gyntaf” gan leihau’n sylweddol ddibyniaeth ar brosesau a ffyrdd o weithio mwy traddodiadol;

  • Caiff gwasanaethau digidol eu cyd-ddylunio â defnyddwyr - bydd ein hymagwedd yn un sy’n canolbwyntio ar y cwsmer;

  • Byddwn yn croesawu cydweithio fel modd o roi gwell profiad i ddefnyddwyr o ddelio gyda ni - bydd cydweithio allanol, gan gynnwys cydweithio ar draws sectorau, yn ein helpu i fod yn fwy effeithlon a chynhyrchiol;

  • Byddwn yn gweithio i chwalu’r rhwystrau i gyfranogiad digidol i’r rheiny sydd wedi’u heithrio’n ddigidol

Egwyddorion - Lle

  • Byddwn yn gweithio i sicrhau bod isadeiledd band-eang a WiFi ar gael i safonau derbyniol ym mhob rhan o’r fwrdeistref sirol;

  • Byddwn yn gweithio i fynd i’r afael â’r rhwystrau y mae unigolion a sefydliadau’n eu hwynebu i gyfranogi ar-lein;

  • Byddwn yn gweithio gyda’n hysgolion a’n partneriaid i sicrhau y gall holl breswylwyr y fwrdeistref sirol ddatblygu’r sgiliau a’r hyder y mae eu hangen arnynt i elwa o’r
    chwyldro digidol; a

  • Byddwn yn profi ein cynigion ar gyfer newid yn drylwyr i sicrhau bod y manteision yr hoffem eu cyflwyno’n gynaliadwy ac yn cefnogi amcaniol lles y cyngor yn uniongyrchol.

Egwyddorion - Data

  • Byddwn yn mwyafu gwerth data a dulliau dadansoddi i ysgogi arloesedd a newid i wasanaethau;

  • Bydd ein hymagwedd yn un agored;

  • Byddwn yn sicrhau bod data’n ddiogel er mwyn meithrin ymddiriedaeth a hyder yn ein rhaglenni digidol, gyda mynediad at ddata’n cael ei reoli i sicrhau bod data’n cael ei gyrchu a’i rannu’n briodol;

  • Cedwir data am y cyfnod y bydd yn berthnasol yn unig

Egwyddorion - Technoleg

  • Bydd TGCh yn dal i fod yn fodd o alluogi arloesedd a newid i wasanaethau nid curadur isadeiledd TGCh yn unig;

  • Bydd ein hisadeiledd yn addas ar gyfer yr oes ddigidol a bydd penderfyniadau buddsoddi mewn TGCh yn y dyfodol yn ystyried y newidiadau cyflym sy’n digwydd ar draws y sectorau TGCh a digidol;

  • Byddwn yn ymdrin â datblygiadau newydd drwy brofi, dysgu ac ailadrodd, gan sicrhau y gallwn arloesi a chreu prototeipiau fel mater o arfer;

  • Byddwn yn mabwysiadu data agored a pholisïau ffynonellau agored i gefnogi cydweithio ac ysgogi arloesedd.

Blaenoriaeth 1

Trawsnewid y ffordd rydym yn cyflwyno'n swyddogaethau/gwasanaethau a chynyddu defnydd preswylwyr o swyddogaethau/ gwasanaethau ar-lein y cyngor;

  • Sefydlu cyfrif dinasyddion i helpu pobl i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein y cyngor a sicrhau bod gan y cyngor fewnwelediad gwell i'r ffordd y mae pobl yn defnyddio'i wasanaethau;
  • Ehangu amrywiaeth gwasanaethau'r cyngor a'r wybodaeth sydd ar gael ar-lein yn seiliedig ar ddealltwriaeth drylwyr o'r hyn sy'n bwysig i breswylwyr;
  • Mynd ati i annog preswylwyr i ddefnyddio gwasanaethau a gwybodaeth ar-lein cyngor fel eu hoff ddewis - hybu "Digidol yn Gyntaf" yn holl gyfathrebiadau'r cyngor;
  • Buddsoddi mewn swyddogaeth gwyddorau data i wella dealltwriaeth y cyngor o anghenion a dewisiadau preswylwyr a defnyddio'r cynnyrch data i lywio ac ysgogi mentrau newydd wrth gyflwyno gwasanaethau.

Blaenoriaeth 2

Cyfrannu at ddatblygu amodau ffafriol ar gyfer twf economaidd yn y fwrdeistref sirol;

  • Sicrhau bod gan yr holl bobl ifanc yr wybodaeth ddigidol, y sgiliau a'r hyder i gymryd rhan yn llawn mewn economi fyd-eang. Hyrwyddo cyfranogiad cyfartal mewn pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) i fechgyn a merched;
  • Sicrhau y gall oedolion gael mynediad at y cyfleoedd dysgu a datblygu y mae eu hangen arnynt i gymryd rhan yn llawn yn yr economi fyd-eang a lleihau anghydraddoldeb o ran cael mynediad at wasanaethau;
  • Mwyafu manteision Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gan helpu i greu rhanbarth sydd wedi'i gysylltu'n llawn sy'n flaenllaw ym maes arloesedd digidol;
  • Cefnogi busnesau ar bob cam o'u datblygiad i weithredu'n llwyddiannus mewn economi ddigidol i gynnwys y defnydd dechnolegau digidol i drawsnewid y prosesau y mae sefydliadau'n eu defnyddio i ddelio a'r cyngor.

Blaenoriaeth 3

Croesawu’r ymagwedd “digidol yn gyntaf” at y ffordd y cefnogir ein gweithlu.

  • Trawsnewid prosesau/gwasanaethau mewnol drwy raglen o newid digidol sydd wedi'i blaenoriaethu er mwyn symud gweithgareddau gwaith i lwyfannau digidol, hunanwasanaeth. Creu gwasanaethau a phrosesau sy'n canolbwyntio'n fewnol ar lwyfan digidol yn unig;
  • Sicrhau bod gweithio ystwyth yn cael ei wreiddio'n llawn ar draws y cyngor fel y gall staff ddewis sut, ble a phryd i weithio;
  • Sefydlu cefnogaeth rheoli newid effeithiol i sicrhau bod cyflwyno'r strategaeth hon yn elwa o arweinyddiaeth gref a chorfforaethol lie cefnogir y gweithlu'n llawn a lie mae'r gweithlu'n rhan o'r newid;
  • Sefydlu arweinyddiaeth ddigidol a llythrennedd digidol fel gofyniad craidd ar gyfer holl swyddi'r cyngor. Creu Strategaeth Sgiliau Digidol a'i rhoi ar waith.