Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Dogfen

Gwasanaethau Oedolion Polisi Trafnidiaeth â Chymorth

Adeiladu Cymunedau Diogel a Chydnerth

1. Cyflwyniad

1.1 Mae Gwasanaethau Oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (‘y Cyngor’) yn ymroddedig i hybu annibyniaeth ar draws pob maes gwasanaeth a ddarperir, gyda’r nod o sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn byw ac yn teithio’n annibynnol yn eu cymunedau eu hunain. Mae teithio i’r gwaith, i hamddena ac ar gyfer gweithgareddau allweddol eraill yn agwedd hanfodol ar fywyd pob dydd, y dylai fod modd ei chyflawni heb lawer iawn o anhawster a, lle bo modd, yn annibynnol.

1.2 Datblygwyd y polisi hwn i ddarparu dull gweithredu strategol o gyflwyno trafnidiaeth sy’n gyson, yn dryloyw ac yn amlinellu’r glir y fframwaith mae’r Cyngor yn ei ddefnyddio ar gyfer darparu gwasanaethau trafnidiaeth. Mae’r polisi’n berthnasol i bob oedolyn 18 oed a throsodd sy’n cael mynediad i wasanaethau cymunedol, gan gynnwys egwyliau byr/seibiant, p’un a yw’r rheiny’n cael eu darparu’n uniongyrchol gan y Cyngor neu’n cael ei gomisiynu ganddo.

2. Y fframwaith cyfreithiol 

2.1 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yw’r fframwaith deddfwriaethol sy’n cyflwyno dyletswydd y Cyngor i asesu angen unigolyn am wasanaethau gofal a chymorth. Bydd dyletswydd ar y Cyngor i ddiwallu’r angen hwnnw os na all adnoddau’r person ei hun neu adnoddau cymunedol ei ddiwallu.

2.2 Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn amlinellu egwyddorion a ffyrdd o weithio sy’n cynnwys cyfrifoldeb am sicrhau datblygiadau cynaliadwy i unigolion ymgysylltu â’u cymunedau lleol, a diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau. Mae hyn yn cysylltu’n uniongyrchol â’r egwyddorion llesiant sy’n sylfaen i’r polisi hwn.

3. Nodau'r polisi

3.1 Nod y polisi hwn yw adlewyrchu blaenoriaethau lleol a chenedlaethol, ac mae’n cyd-fynd â dull y Cyngor o ddarparu Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Mae’r polisi wedi’i seilio ar Gynllun y Cyngor ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion 2019 – 2022, ac mae’n glynu at ein hegwyddorion, sef:

  • Hybu annibyniaeth
  • Mwyafu dewis a rheolaeth
  • Cefnogi ffordd iach o fyw
  • Gwella ansawdd bywyd
  • Mwyafu urddas a pharch
  • Datblygu rhwydweithiau lleol a chymunedol

4. Datganiad polisi

4.1 Mae’r polisi hwn yn amlinellu sut bydd y Cyngor yn sicrhau ffordd gyson a theg o gefnogi unigolion wrth ddarparu Trafnidiaeth â Chymorth ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion.

4.2 Mae’r polisi hwn yn nodi’r meini prawf a ddefnyddir i asesu sut mae oedolion yn cael mynediad i drafnidiaeth i wasanaethau a nodwyd mewn cynllun gofal a chymorth ac sy’n cael eu darparu gan y Cyngor.

4.3 Egwyddor gor-redol y polisi hwn yw bod y penderfyniad i ddarparu trafnidiaeth yn cael ei seilio ar anghenion, risgiau a chanlyniadau, ac ar hybu annibyniaeth. Mae’r Cyngor yn ymroddedig i hybu annibyniaeth ar draws pob maes gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu, ac mae’n ceisio sicrhau bod pobl yn byw mor annibynnol â phosibl o fewn eu cymunedau eu hunain ac yn parhau i gael mynediad i wasanaethau a chymorth mewn ffyrdd sy’n diwallu eu hanghenion.

4.4 Nid yw’r angen am drafnidiaeth yn angen cymwys ynddo’i hun, yn hytrach mae’n fodd i gyrchu’r gwasanaethau gofal a chymorth sy’n ofynnol i ddiwallu angen a aseswyd. Weithiau, mae angen i’r Awdurdod Lleol ddarparu trafnidiaeth i fynychu gwasanaeth dydd fydd yn diwallu’r anghenion a aseswyd ar gyfer y person, ond mae hwn yn asesiad ar wahân i’r angen am y gwasanaeth dydd ei hun. Mae’r polisi hwn wedi’i seilio ar ragdybiaeth gyffredinol a disgwyl y bydd cryfderau pobl eu hunain a’u gallu i deithio i gael mynediad i wasanaethau a/neu gefnogaeth, gyda mantais hyfforddiant a chymorth perthnasol lle bo hynny’n berthnasol, yn cael eu hasesu’n llawn a’u cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu a oes angen darparu trafnidiaeth, fel y bydd yr adnoddau sydd ar gael iddynt fel unigolion ac o’r gymuned ehangach.

4.5 Ni fydd trafnidiaeth wedi’i ariannu yn cael ei ddarparu ond os na fydd ffordd resymol arall, ym marn yr aseswr, i ganiatáu i’r person gael mynediad diogel i wasanaeth cymwys. Bydd yr holl ddulliau trafnidiaeth amgen priodol sydd ar gael (er enghraifft cerbydau personol, tacsi a ariannir trwy’r Lwfans Symudedd, cerbydau a gafwyd drwy’r Cynllun Motability, neu gludiant cyhoeddus, gan gynnwys cynlluniau cludiant cymunedol gwirfoddol), yn cael eu hystyried, a rhagdybir y bydd modd i’r unigolyn ddefnyddio’r rhain yn y lle cyntaf, ac y bydd yn gwneud hynny, oni bai bod asesiad unigol yn dangos fel arall.

4.6 Yn gyffredinol, bydd disgwyl i unigolion sydd â’r gallu corfforol a gwybyddol i deithio mewn modd heblaw ar drafnidiaeth a ariannwyd at weithgaredd cymunedol, boed hynny’n annibynnol neu gyda chymorth gan deulu, ffrindiau neu ddarparwyr cefnogaeth, wneud hynny. Bydd staff o’r Gwasanaethau Oedolion yn cyfeirio unigolion at opsiynau trafnidiaeth priodol er mwyn hybu annibyniaeth y person dan sylw.

4.7 Bydd disgwyl i bobl sy’n gymwys i dderbyn tocynnau teithio rhad (h.y. pás i’r bws) wneud cais am y rhain a’u defnyddio fel sy’n briodol yn ôl yr anghenion a aseswyd, gyda chefnogaeth gan eu rheolwr gofal i gyflwyno cais os bydd angen. Lle byddai cael pás bws i gydymaith yn galluogi rhywun i deithio ar gludiant cyhoeddus, ystyrir hynny ar gyfer eu gofalwr/cydymaith. Bydd cyfyngiadau teithio am bris gostyngol hefyd yn cael eu cymryd i ystyriaeth fel rhan o’r asesiad.

4.8 Os ydyn nhw’n gymwys, cytunir i ddarparu’r drafnidiaeth o fan casglu a dychwelyd dynodedig oddi mewn i ffiniau Castell-nedd Port Talbot. Cyfrifoldeb y defnyddiwr gwasanaeth (neu’r teulu/gofalwr) fydd teithiau nad ydynt yn rhan o gynllun gofal cytunedig.

4.9 Nid yw darparu trafnidiaeth â chymorth i alluogi pobl ifanc i gael mynediad i addysg (o dan Bolisi’r Cyngor ar gyfer Teithio o’r Cartref i’r Ysgol) neu wasanaethau eraill yn golygu y bydd hawl i dderbyn trafnidiaeth a ariannir gan y Cyngor ar ôl tyfu’n oedolyn. Bydd hyn yn rhan o unrhyw drafodaethau pontio a’r asesiad o angen gofal cymunedol.

Asesu’r angen am drafnidiaeth

5.1 Ni fydd asesiad am drafnidiaeth â chymorth yn cael ei ystyried ond lle mae’r person yn gymwys i dderbyn gwasanaeth cymunedol a ddarperir gan y Cyngor er mwyn diwallu angen cymwys a aseswyd. Rhaid i’r asesiad fod yn rhan o’r asesiad o ganlyniadau ac anghenion person, a bydd yn cael ei ystyried mewn unrhyw adolygiad(au) dilynol o’r cynllun gofal a chymorth.

5.2 Wrth gwblhau’r asesiad hwn, rhoddir pwyslais ar gryfderau a galluoedd y person, a chanolbwyntio ar atebion sy’n eu galluogi i wneud pethau drostynt eu hunain yn hytrach na bod yn ddibynnol. Nod yr asesiad fydd canfod a yw’n ddiogel ac yn rhesymol disgwyl i’r person, neu eu cynrychiolydd, wneud trefniadau trafnidiaeth. Fel rhan o’r asesiad, edrychir ar yr holl opsiynau trafnidiaeth, a nodir y canlyniadau, ar sail tystiolaeth.

5.3 Dylid nodi’r angen am drafnidiaeth, a’i diben, yn eglur ar asesiad unigolyn a’r Cynllun Gofal a Chymorth a greir o ganlyniad.

5.4 Ni fydd darparu trafnidiaeth â chymorth yn cael ei ystyried ond i alluogi pobl i deithio yn ôl ac ymlaen at wasanaethau yr aseswyd bod eu hangen arnynt i ddiwallu eu hanghenion gofal cymdeithasol, yn dilyn Asesiad Gofal. Bydd unrhyw drafnidiaeth a ddarperir yn briodol ar gyfer yr angen hwnnw, yn darparu gwerth am arian, ac yn gost-effeithiol.

5.5 Wrth asesu cymhwysedd ar gyfer trafnidiaeth ac ymarferoldeb gwahanol ffyrdd o gael mynediad i’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu, cymerir y ffactorau canlynol i ystyriaeth:

  • Mynediad at drafnidiaeth bresennol
  • Mynediad at lwfans symudedd neu arian arall a ddarparwyd i ddiwallu anghenion symudedd
  • Asesiad symudedd
  • Asesiad o’r gallu i deithio’n annibynnol
  • Nodi darpariaeth drafnidiaeth briodol ar gyfer y rhai sy’n gymwys
  • Canlyniad posibl cyfnod o hyfforddiant teithio

5.6 Os canfyddir yn ystod y broses asesu bod modd i’r person deithio i weithgaredd cymunedol sy’n cyfateb i’w canlyniadau, naill ai’n annibynnol neu gyda chymorth gan deulu, ffrindiau neu ddarparwyr cefnogaeth, ni fydd y Cyngor yn darparu trafnidiaeth, nac yn talu am gostau teithio. Fodd bynnag, nid yw hynny’n atal pobl rhag defnyddio’u hadnoddau ariannol eu hunain i dalu am drafnidiaeth os dewisant wneud hynny.

Ni fydd pobl fel arfer yn gymwys I gael trafnidiaeth yn y sefyllfaoedd canlynol

6.1 Os oes ganddynt y gallu corfforol a/neu feddyliol i deithio i weithgaredd cymunedol, naill ai’n annibynnol neu gyda chymorth gan deulu, ffrindiau neu ddarparwyr cefnogaeth.

6.2 Os oes ganddynt eu cerbyd eu hunain, neu fynediad at gerbyd teuluol neu gerbyd Motability y maent yn ei yrru eu hunain.

6.3 Mae ganddyn nhw gerbyd Motability nad ydyn nhw eu hunain fel arfer yn ei yrru, ac mae gyrrwr ar gael.

6.4 Os oes gan unigolyn fynediad at gerbyd y teulu/yr aelwyd, rhoddir ystyriaeth i weld a yw’n rhesymol disgwyl i rwydwaith teulu a ffrindiau’r person eu helpu i deithio i leoliad y gwasanaeth / gweithgaredd gofal.

6.5 Maen nhw’n derbyn elfen Symudedd Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) / Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), a fwriadwyd i gynorthwyo’r rhai sydd â phroblemau symudedd, sy’n cael anhawster difrifol i gerdded, neu y mae angen help arnynt i symud o gwmpas allan yn y gymuned, ac y mae’n rhesymol disgwyl iddi gael ei defnyddio i hwyluso trafnidiaeth i’r gwasanaeth gofal/gweithgaredd. Ni fyddant fel arfer yn gymwys i dderbyn trafnidiaeth a ariannir ond os asesir eu bod yn analluog i deithio’n annibynnol, neu os yw elfen symudedd eu budd-dal eisoes yn cael ei defnyddio’n llawn ac yn rhesymol i dalu am eu hanghenion symudedd eraill, oherwydd pellter o wasanaethau, natur yr anabledd, y math o gadair olwyn, gofynion cefnogaeth gofalwr, ac ati. Fel rhan o’r asesiad ariannol llawn, bydd y Cyngor hefyd yn helpu i fwyafu eu mynediad at unrhyw fudd-daliadau y gallai fod ganddynt hawl i’w derbyn.

6.6 Os ydynt yn byw mewn cartref gofal cofrestredig, gan fod y rhain yn destun telerau ac amodau’r contract rhwng y Cyngor a’r cartref gofal. Fodd bynnag, os asesir bod gan unigolyn y gallu i deithio’n annibynnol, neu â lleiafswm o ymyrraeth, bydd y cartref gofal yn darparu ar gyfer cefnogi teithio annibynnol os ydynt yn gyfrifol am y trefniadau trafnidiaeth.

7. Canllawiau ymarfer

Ar sail yr egwyddorion/y meini prawf uchod, cymhwysir y canllawiau canlynol wrth nodi’r angen am drafnidiaeth â chymorth gan CBS Castell-nedd Port Talbot:

7.1 Os yw person yn gallu cerdded, defnyddio symudedd â chymorth (sgwter modur, cadair olwyn/cymhorthion) naill ai’n annibynnol neu gyda chymorth gan deulu, ffrindiau, gweithiwr cefnogi, gwirfoddolwr ac ati i gyrraedd gwasanaeth cymunedol lleol, gan gynnwys coleg, ac mae’n rhesymol iddynt wneud hynny, ni fydd trafnidiaeth yn cael ei darparu.

7.2 Os yw person yn gallu defnyddio cludiant cyhoeddus, cludiant gwirfoddol neu gludiant cymunedol, naill ai’n annibynnol neu gyda lefel resymol o gefnogaeth (teulu, ffrind, gofalwr, gweithiwr cefnogi ac ati) i deithio yn ôl ac ymlaen i weithgareddau cymunedol, gan gynnwys coleg, ni fydd trafnidiaeth yn cael ei darparu.

7.3 Os yw pobl yn cyfrannu at ddarparu cerbyd cymunedol a rennir, dylid defnyddio’r cerbyd hwnnw i’w cludo i weithgareddau cymunedol, gan gynnwys coleg, o dan yr asesiad o angen.

7.4 Os oes gan berson fynediad at gerbyd, er enghraifft, sy’n eiddo iddynt eu hunain neu eu gofalwr, bydd yr asesiad o angen yn cymryd hynny i ystyriaeth. Bydd angen i’r asesiad ystyried a oes modd defnyddio’r cerbyd i gael mynediad i weithgareddau cymunedol, gan gynnwys coleg.

7.5 Lle bo hynny’n ymarferol ac yn rhesymol, gofynnir i ofalwyr sydd â thrafnidiaeth helpu i gefnogi trefniadau teithio i wasanaethau.

7.6 Lle nodir mewn asesiad gofalwr y byddai peidio â darparu trafnidiaeth yn gosod cyfrifoldeb afresymol ar ofalwr, bydd trafnidiaeth â chymorth yn cael ei hystyried o dan asesiad o’r angen.

7.7 O dan bob amgylchiadau eraill, cyhyd â bod yr holl opsiynau trafnidiaeth wedi cael eu hystyried, a bod tystiolaeth a chofnod o hynny, bydd trafnidiaeth â chymorth yn cael ei hystyried.

7.8 Bydd yr holl geisiadau am drafnidiaeth â chymorth yn cael eu hystyried gan naill ai Reolwr Tîm (neu reolwr cyfatebol), Rheolwr Gwasanaeth neu Banel Adnoddau perthnasol y Gwasanaethau Oedolion.

7.9 Ni fydd y Cyngor yn darparu trafnidiaeth i fynychu gwasanaeth angen iechyd a aseswyd (ysbyty, ffisiotherapi, apwyntiadau meddyg ac ati).

8. Cludo un person ar y tro

8.1 Os aseswyd bod gan unigolion ymddygiad heriol, bydd ganddynt gynllun rheoli risg i reoli diogelwch, fydd yn egluro pam dylid eu cludo ar eu pen eu hunain mewn tacsi neu unrhyw gerbyd arall sy’n cael ei ddarparu o dan gontract gan y Cyngor. Cynhelir asesiad risg gan y gweithiwr cymdeithasol neu’r aseswr. Bydd cludiant unigol ar gael hefyd os bydd hynny’n golygu bod y drafnidiaeth yn fwy gost-effeithiol i’r Cyngor.

8.2 Pan gynhelir asesiad neu adolygiad ar gyfer gwasanaethau, dylid cynnal asesiad ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth ar yr un pryd, a’i gyflwyno i’r Panel Adnoddau. Os yw tacsis/cerbydau i gael eu defnyddio ar gyfer un person, rhaid i’r Panel Adnoddau gadarnhau bod y meini prawf uchod wedi’u bodloni, a rhaid cwblhau asesiad risg.

8.3 Dylid ystyried/cytuno a oes gofyn darparu hebryngwr ar yr un pryd.

9. Asesu risg

9.1 Os yw person sy’n cael mynediad i wasanaethau yn gymwys i dderbyn trafnidiaeth â chymorth fel rhan o’r angen a aseswyd, dylai staff gynnal asesiad risg o addasrwydd yr unigolyn i gael ei g/chludo ac ystyried unrhyw faterion symudedd perthnasol, maint a math y gadair olwyn (os yw hynny’n berthnasol), a oes angen cynorthwy-ydd teithiwr (hebryngwr), unrhyw faterion meddygol ac unrhyw wybodaeth arall a allai effeithio ar yr amgylchedd neu ar sut mae’r person yn cael ei g/chludo.

9.2 Dylai’r gweithiwr gofal cymdeithasol proffesiynol gyfeirio at y Fframwaith Cymryd Risgiau Cadarnhaol wrth gynnal adolygiad/asesiad.

9.3 Bydd y gwasanaethau trafnidiaeth a cherbydlu yn cynnal asesiad risg cyfatebol, yn ôl y galw, i sicrhau bod y cyfarpar a ddarparwyd, ac ati, fel rhan o’r drafnidiaeth yn addas ar gyfer yr unigolyn.

9.4 Dylai defnyddwyr gwasanaeth gael eu hysbysu nad yw pob cadair olwyn yn addas at ddibenion trafnidiaeth, a dylid eu hannog yn gynnar i brynu rhai sy’n bodloni’r meini prawf.

10. Adolygu a therfynu gwasanaeth

10.1 Bydd parhau i ddarparu trafnidiaeth a/neu gynorthwywyr/hebryngwyr teithwyr yn cael ei adolygu, ynghyd ag elfennau eraill o’r pecyn gofal, o leiaf bob blwyddyn. Os bydd amgylchiadau person yn newid, cynhelir ail-asesiad.

10.2 Os bydd bwriad i ddod â thrafnidiaeth i ben yn deillio o’r asesiad/adolygiad, cefnogir y defnyddiwr trwy gyfnod pontio cytunedig am amser penodol, er mwyn sicrhau bod unrhyw risgiau a nodwyd yn cael eu lliniaru, a bod modd gwneud trefniadau amgen.

10.3 Os aseswyd bod unigolyn yn medru gwneud trefniadau trafnidiaeth ei hun, ond yn gwrthod gwneud hynny, ac o ganlyniad yn methu mynychu’r gwasanaeth y mae angen cymwys a aseswyd amdano, bernir bod y person wedi gwrthod y gwasanaeth(au).

10.4 Lle mae person wedi gwrthod gwasanaeth y mae’n gymwys i’w dderbyn, bydd yr aseswr yn gwerthuso a oes gan y person gapasiti i wneud y penderfyniad hwnnw. Os yw’r penderfyniad yn cael ei wneud ar ran person arall, bydd yr aseswr yn gwirio a yw’n teimlo bod y penderfyniad yn cael ei wneud er lles pennaf y sawl sy’n gymwys i dderbyn y gwasanaeth(au).

11. Gweithdrefn Gwynion / Apeliadau

11.1 Os bydd unigolion sy’n cael mynediad i wasanaethau neu eu gofalwyr yn dymuno cael cyfle i herio unrhyw benderfyniadau a wnaed, dylent gyfeirio at weithdrefn gwynion y Cyngor. Mae llwybr apelio clir i’r broses hon, ac amserlen ar gyfer delio gyda chwynion, yn ogystal â llinell ffôn benodol ar gyfer Gwasanaethau Oedolion.

11.2 Dylai unigolion a/neu eu gofalwyr dderbyn gwybodaeth sy’n egluro sut mae cwyno am y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghastell-nedd Port Talbot, sydd ar gael mewn fformatau hygyrch a gwahanol ieithoedd. Mae modd cyrchu’r daflen a manylion y weithdrefn gwynion hefyd trwy wefan y Cyngor, sef www.npt.gov.uk. Y rhif ffôn penodedig ar gyfer Cwynion Gwasanaethau Oedolion yw (01639) 763445, neu drwy e-bost: complaints@npt.gov.uk

12. Egwyddorion Codi Tâl Am Drafnidiaeth

O dan Rannau 4 a 5 o’r Côd Ymarfer (Codi Tâl ac Asesiad Ariannol) sy’n rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, rhaid i awdurdod lleol beidio â chodi tâl am drafnidiaeth i wasanaeth dydd lle mae’r drafnidiaeth yn cael ei darparu fel rhan o ddiwallu’r anghenion a aseswyd ar gyfer person.

13. ADOLYGU’R POLISI

Mae’r polisi’n adlewyrchu ein sefyllfa gyfredol, a bydd yn cael ei adolygu’n flynyddol.

14. Adnoddau