Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cyd-destun

Uchelgais Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw cyflwyno gwasanaeth addysg gynhwysol sy'n dathlu amrywiaeth ac yn parchu hawl pawb i addysg. Mae'r cyngor yn rhoi mynediad i brofiadau dysgu o safon i bob plentyn a pherson ifanc drwy annog a chefnogi unigolion i wireddu eu huchelgeisiau, cyflawni eu potensial a bod yn aelodau gweithgar a chyfrifol o'r gymdeithas.
Er mwyn diwallu anghenion addysgol plant, mae'r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn cyflwyno darpariaeth amrywiol, gan gynnwys:

  • Addysg feithrin ran-amser, sydd ar gael ym mhob ysgol gynradd ac ysgol 'pob oed' i blant 3 i 16 oed/3 i 18 oed. Mae dysgu llwyddiannus yn dechrau yn y dosbarth meithrin lle gall plant dderbyn profiadau cyfoethog mewn amgylchedd diogel;
  • Addysg gynradd mewn ysgolion cynradd ac ysgolion 'pob oed' i blant 3 i 16 oed/3 i 18 oed (gan gynnwys ysgolion Cymraeg ac ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol), gan ddarparu addysg eang wedi'i seilio ar brofiadau ymarferol ac wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion yr unigolyn, gan gynnwys meysydd astudio'r cwricwlwm cenedlaethol.
  • Addysg uwchradd mewn ysgolion uwchradd ac ysgolion 'pob oed' i blant 3 i 16 oed/3 i 18 oed (gan gynnwys ysgolion Cymraeg ac ysgol Gatholig), gan osod safonau uchel mewn arholiadau, gweithgareddau chwaraeon a diwylliannol, ac addysg bersonol a chymdeithasol. Mae'r disgyblion ym mhob ysgol yn cael cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd allgyrsiol a'r Cwricwlwm Cenedlaethol;
  • Ysgolion arbennig, sy'n darparu profiadau dysgu cyfoethog ac ysgogol i ddisgyblion ag anawsterau difrifol a chymhleth. Mae gan yr holl ddisgyblion sy'n mynd i'r ysgolion hyn ddatganiad o anghenion addysgol arbennig. Mae cefnogaeth arbenigol ar gyfer disgyblion oed cynradd ac uwchradd ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol ar gael yn y fwrdeistref sirol;
  • Canolfannau cefnogi dysgu, sydd ar gael mewn sawl ysgol gynradd, uwchradd a rhai 'pob oed' ac sy'n darparu cefnogaeth arbenigol mewn ysgolion prif ffrwd i ddisgyblion â datganiadau o anghenion addysgol arbennig.

Mae trefniadau derbyn y cyngor ar gyfer ysgolion cymunedol yn sicrhau nad yw gweithdrefnau derbyn yn rhoi mantais neu anfantais annheg i grwpiau trwy ddefnyddio Côd Derbyn Ysgolion Llywodraeth Cymru 005/2013.