Atodiad A
Camau Lliniaru | Deilliant | Targedau ar gyfer Cwmtawe |
---|---|---|
1. Datblygu drwy grŵp tasg a gorffen lleol, gynllun cyfannol sy'n edrych yn fanwl ar bob agwedd ar fywiogrwydd y Gymraeg yng Nghwmtawe |
1-7 | Sefydlu gweithgorau i ystyried materion thematig megis y defnydd o'r iaith gan y sector preifat, gan grwpiau gwirfoddol a gan bobl ifanc yn gyffredinol. Meysydd ar gyfer cydweithio: • Darpariaeth a lleoliad cyn-ysgol • Marchnata addysg cyfrwng Cymraeg • Darparu'r Gymraeg i oedolion ac oedolion yn manteisio ar hyn • Digwyddiadau magu hyder yn yr iaith • Hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg gan sefydliadau preifat a gwirfoddol • Gweithgareddau ac adloniant i bobl ifanc ac oedolion ifanc • Cyflogaeth a datblygiad economaidd |
2. Datblygu rhaglen gadarn a chynhwysfawr o ddarpariaeth cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg | 1 (bydd cynnydd yn y deilliant yn effeithio’n bositif ar weddill y deilliannau ) |
Mae cais cyllid cyfalaf wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru er mwyn creu darpariaeth gofal plant newydd ar dir YGG Trebannws, gyda’r bwriad o ysgogi twf yn nifer y disgyblion yn yr ysgol a hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ymhellach.
|
3. Datblygu ffrwd categori 2 (iaith ddeuol) yn yr ysgol cyfrwng Saesneg | 3, 4, 5 (bydd cynnydd yn y deilliant yn effeithio’n bositif ar weddill y deilliannau ) |
This is not an action that would be recommended in the short term, for the following reasons • Concerns have been raised by the governing bodies of YGG Trebannws and YGG Pontardawe regarding fears that a new English-medium school will negatively impact on Welsh-medium pupil numbers, and more specifically on these two schools; should the new school offer the opportunity for parents to choose a Welsh-medium stream then the risk of pupils moving from either of Nid yw hwn yn gam gweithredu a fyddai'n cael ei argymell yn y tymor byr, am y rhesymau canlynol: Fodd bynnag, yn y tymor hwy, mae hwn yn opsiwn a allai fynd i'r afael â rhai o'r materion a nodwyd ynghylch dirywiad yr iaith a'r angen i'w thyfu a'i datblygu yn yr ardal ieithyddol sensitif hon. |
4. Yr holl staff yn y cyfleusterau hamdden i feddu ar sgiliau dwyieithog |
Ddim yn berthnasol Cysylltiadau i ddeilliant 5 |
Ar hyn o bryd mae'r ganolfan hamdden a'r pwll yn cael eu rheoli gan ymddiriedolaeth hamdden, sy'n gyfrifol am gyflogi staff. Byddai'r cyngor yn argymell bod y gallu i siarad Cymraeg yn agwedd ddymunol ar unrhyw benodiadau newydd a wneir o hyn ymlaen. |
5. Sefydlu canolfan newydd i hwyrddyfodwyr i addysg Gymraeg | 2, 3 (bydd cynnydd yn y deilliant yn effeithio’n bositif ar weddill y deilliannau ) | Mae darparu darpariaeth ar gyfer hwyrddyfodwyr i addysg Gymraeg yn darged sydd wedi'i gynnwys yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg drafft a Chynllun Strategaeth yr Iaith Gymraeg CNPT. Rydym wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru er mwyn buddsoddi mewn darpariaeth drochi i hwyrddyfodwyr i addysg Gymraeg. Bydd y ddarpariaeth drochi yn galluogi rhagor o ddysgwyr i gael mynediad i addysg Gymraeg gynradd ac uwchradd. Yn bresennol, y bwriad yw i sefydlu hwb drochi gogledd yr awdurdod yn YGG Pontardawe. Gallai’r opsiwn o gael canolfan drochi ganolog yn ardal Cwmtawe fynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n ymwneud â dirywiad y Gymraeg, gan arwain at gynnydd yn hyder y gymuned wrth ddewis addysg Gymraeg. |
6. Darpariaeth o hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith gyffredinol | 7 (bydd cynnydd yn y deilliant yn effeithio’n bositif ar weddill y deilliannau) |
Byddwn yn cynnal sesiynau ymwybyddiaeth iaith/safonau'r Gymraeg (gan ddilyn model Cefin Campbell/ Cwmni Sbectrwm 2020). Anelir hyn at uwch-reolwyr ar draws y cyngor er mwyn iddynt gael gwell dealltwriaeth o faterion, gan gynnwys fframwaith deddfwriaethol a pholisi. Bydd sesiynau hefyd ar gael i’r gweithlu/ gymuned yng Nghwmtawe er mwyn codi ymwybyddiaeth o fanteision dwyeithrwydd. |
7.Adolygiad cyffredinol o'r ddarpariaeth adeiladu a datblygiadau arfaethedig | 1, 2, 3 (bydd cynnydd yn y deilliant yn effeithio’n bositif ar weddill y deilliannau ) |
Caiff holl ysgolion y cyngor eu hadolygu'n rheolaidd yn erbyn meini prawf penodol, ac mae'r angen am ddigon o leoedd mewn ysgolion Cymraeg yn rhan o'r broses adolygu. Defnyddir dull strategol er mwyn hwyluso’r broses o gynllunio a darparu er mwyn adnabod y galw am ysgolion cyfrwng Cymraeg. Yn ogystal, mae ymchwil wedi'i wneud i edrych ar dwf poblogaeth a lle mae disgyblion cyfrwng Cymraeg presennol yn byw. Bwriad yr ymchwil yw i nodi'r ardaloedd mwyaf addas ar gyfer sefydlu ysgolion Cymraeg. Mae swyddogion wedi adnabod a nodi nifer o brosiectau sydd bellach wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru fel rhan o gais ar gyfer cyllid sy’n cefnogi a datblygu’r Gymraeg mewn addysg. Un o’r prosiectau allweddol yw datblygu’r Cyfnod Sylfaen yn YGG Trebannws er mwyn denu fwy o ddysgwyr i’r ysgol a darparu amgylchedd addysgu o’r safon uchaf yn unol â safonau Ysgolion yr 21ain Ganrif. |
8. Datblygu ymhellach y ddarpariaeth ar safle Bro Dur, Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur. | 4 (bydd cynnydd yn y deilliant yn effeithio’n bositif ar weddill y deilliannau ) |
Byddwn yn datblygu continwwm iaith a dysgu ar draws yr holl gamau dilyniant, gan hyrwyddo hyder dysgwyr a sicrwydd rhieni. |
9. Datblygu cynllun cyfannol ar gyfer hyrwyddo addysg Gymraeg mewn cydweithrediad â De Powys, Dwyrain Sir Gaerfyrddin a Chyngor Abertawe | 1-7 | Bydd swyddogion Castell-nedd Port Talbot yn ceisio agor trafodaethau ag awdurdodau cyfagos mewn ymdrech i fynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n deillio o'r amrywiadau yn y ddarpariaeth ar draws y sector cyfrwng Cymraeg. |
10. Datblygu’r rhaglen Cymraeg ail iaith ar gyfer dysgu ac addysgu yn y sector Saesneg er mwyn sicrhau dilyniant o'r sector cynradd i'r sector uwchradd. | 5, 7 (bydd cynnydd yn y deilliant yn effeithio’n bositif ar weddill y deilliannau ) |
Bydd Cymraeg Campus yn rhan annatod o gynllunio ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru ym mhob ysgol, gyda phwyslais ar ddilyniant ysgol gyfan (gyda chefnogaeth ein Swyddog y Gymraeg mewn Addysg a Swyddogion Datblygu’r Cwricwlwm- Cymraeg yn y sector Saesneg). Bydd hyn yn cynyddu hyder dysgwyr a staff wrth ddefnyddio'r Gymraeg ac yn effeithio'n gadarnhaol ar ethos pob ysgol. Bydd cynllun gweithredu Cymraeg Campus newydd ysgolion Cwmtawe yn cael ei ddefnyddio i sicrhau cyfleoedd rheolaidd i ddysgwyr, staff a'r gymuned ehangach gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n cynyddu hyder yn yr iaith Gymraeg ac yn hyrwyddo diwylliant a hanes modern Cymru. Bydd hyn yn arwain at fwy o ymwybyddiaeth o berthnasedd/bwysigrwydd y Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. Byddwn yn parhau i adeiladu ar lwyddiant ein 'Gig Gymraeg' blynyddol o fewn clwstwr YGYBD ar gyfer disgyblion Bl6 a Bl7 ac yn cyflwyno hyn ar draws yr holl ALl, gan sicrhau bod pob disgybl Bl6 yn y tair ysgol cyfrwng Saesneg (Cwmtawe) yn gallu manteisio ar yr ŵyl gerddoriaeth cyfrwng Cymraeg gyfoes a gynhelir ar hyn o bryd yn YGYBD, safle Ystalyfera. Bydd gwefan ysgolion CNPT, a grëwyd gan ddysgwyr ysgolion cyfrwng Cymraeg, i hyrwyddo diwylliant modern a hanes Cymru a'r ardal leol yn cael ei lansio a bydd ysgolion cyfrwng Saesneg yn dilyn y fformat hyn. Bydd cyfle i staff o bob un o’r tair ysgol yng Nghwmtawe gydweithio ar y prosiect, gan helpu i feithrin perthynas waith dda cyn symud i fod yn un ysgol. |
11. Cynllun Gweithredu i Hybu'r Gymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot ar gyfer y cyfnod 2018-23. |
1-7 | Caiff Strategaeth Hybu'r Gymraeg 2018-2023 ei monitro'n flynyddol gan Fwrdd Craffu'r Cabinet/y Cabinet. Cyhoeddir y strategaeth a'r adroddiadau blynyddol ar wefan CNPT (ar gael yn y Gymraeg a Saesneg). Bydd yr adroddiad blynyddol nesaf yn mynd gerbron y Cabinet ym mis Tachwedd. |