Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Dogfen

Gwybodaeth Cefndir

DEDDF CYNRYCHIOLAETH Y BOBL 1983
Adrannau 18A, 18B, a 18C
ADOLYGIAD O ARDALOEDD PLEIDLEISIO, MANNAU PLEIDLEISIO A
GORSAFOEDD PLEIDLEISIO


HYSBYSIR drwy hyn bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi cwblhau adolygiad o Ardaloedd Pleidleisio, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio o fewn ardal yr awdurdod lleol ac Etholaethau Seneddol Aberafan a Chastell-nedd.

Wedi ystyried y cynrychiolaethau a dderbyniwyd, canlyniad yr Adolygiad yw nad oes angen gwneud unrhyw newidiadau i unrhyw un o'r Ardaloedd Pleidleisio.

Ystyriwyd cynrychiolaethau ynghylch Gorsafoedd Pleidleisio, ac mae'r Swyddog Canlyniadau wedi gwneud newidiadau i leoliadau rhai Gorsafoedd Pleidleisio.

Mae manylion y newidiadau hyn hefyd ar gael i'w harchwilio. Bydd y newidiadau hyn ar waith ar gyfer unrhyw etholiadau a gynhelir ar ôl 17 Ebrill 2019.

Gellir archwilio dogfennaeth mewn perthynas â'r adolygiad hwn yn swyddfa'r Prif Weithredwr, Canolfan Ddinesig Port Talbot, yn ystod oriau swyddfa arferol, neu ar wefan y Cyngor yn www.npt.gov.uk.

S.J. PHILLIPS
Prif Weithredwr
Y Ganolfan Ddinesig
PORT TALBOT
SA13 1PJ
17 Ebrill, 2019