Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cyflogaeth - sicrhau bod ein gweithlu'n adlewyrchu ein cymuned yn well, bod ein polisïau'n deg ac yn gydradd a bod bylchau cyflog rhwng y rhywiau yn cael eu lleihau

Blaenoriaeth 4.1 Mae ein gweithlu yn adlewyrchu ein cymunedau amrywiol ac yn cael ei gefnogi gan ein polisïau

Cam gweithredu

Byddwn yn sicrhau proses recriwtio a dethol deg a thryloyw sy'n annog cronfa dalent ehangach ac yn hwyluso cydbwysedd rhyw mwy cyfartal

Cynnydd 2020-2021

Rydym yn parhau i gynnig cyrsiau ar gyfer rheolwyr sy'n recriwtio gyda chyrsiau yn symud ar-lein yn ystod 2020-2021; mynychodd 11 rheolwr gyrsiau Recriwtio a Dewis. 

Ym mis Medi 2021, pan symudwn i'n cronfa ddata AD/Cyflogres newydd, iTrent, byddwn yn treialu ffurflenni cais anhysbys mewn rhai meysydd er mwyn hwyluso hyn.

 

Cam gweithredu

Byddwn yn hyrwyddo, hwyluso, dadansoddi a monitro hyblygrwydd yn y gweithle ar bob lefel, i alluogi menywod i symud ymlaen ac i sicrhau cydnawsedd â gweithlu aml-genhedlaeth.

Cynnydd 2020-2021

Mae codi ymwybyddiaeth a chyfathrebu ar bolisïau gweithio hyblyg/polisi absenoldeb rhiant a rennir y cyngor a'u buddion a wneir yng Nghyfarfodydd Uwch Reolwyr y Gyfarwyddiaeth yn cael eu rhaeadru ar draws pob maes gwasanaeth.

Hyrwyddwyd ein hopsiynau gweithio hyblyg ac mae'n parhau trwy ein mecanweithiau cyfathrebu mewnol fel 'In the Loop' a chyhoeddiad wythnosol Sway.

 

Cam gweithredu

Byddwn yn casglu ac yn monitro data yn fanylach mewn perthynas â gweithio hyblyg 

Cynnydd 2020-2021

Roedd casglu a monitro data wedi cychwyn ond oherwydd y pandemig ac o gofio bod nifer fawr o gyflogeion wedi bod yn gweithio gartref, bu gostyngiad yn y ceisiadau am weithio'n hyblyg yn ystod y cyfnod hwn.

Fodd bynnag, wrth i'r sefyllfa wella a chyda threfniadau gweithio yn annhebygol o ddychwelyd i'r amodau cyn y pandemig byddwn yn adolygu ein polisïau fel rhan o'n gwaith cynllunio adferiad

 

Cam gweithredu

Byddwn yn craffu ar y nifer sy'n cymryd Absenoldeb Rhiant a Rennir i fonitro cydbwysedd rhwng y rhywiau ac annog pobl i gymryd rhan ar draws rhywiau

Cynnydd 2020-2021

Yn ystod 2019-2020, cymerodd 181 o gyflogeion absenoldeb mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu ond ni chymerodd unrhyw gyflogai absenoldeb rhiant a rennir.

Fodd bynnag, byddwn yn parhau i fonitro'r nifer sy'n cymryd absenoldeb rhiant a rennir, gyda'r system AD newydd a gweithredu prosesau cysylltiedig yn gwella ein gallu i graffu'n effeithiol ar hyn a pholisïau eraill.

 

Cam gweithredu

Byddwn, yn ysbryd Cyfamod y Lluoedd Arfog, yn cynnwys cynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer aelodau o'r Lluoedd Arfog a ryddhawyd yn ddiweddar. 

Cynnydd 2020-2021

Gweithredwyd hyn yn ein proses recriwtio, ond dim ond ar gyfer ein ffurflen gais papur a'r wybodaeth a ddarperir ar dudalennau swyddi CNPT, gan na allwn newid y ffurflen gais ar-lein.

Ym mis Medi 2021, gweithredir hyn yn llawn pan symudwn i'n Cronfa Ddata AD/Cyflogres newydd - iTrent.

 

Cam gweithredu

Byddwn yn ystyried sut mae ein polisïau a'n harferion yn effeithio ar ein staff sy'n cael eu cyflogi ar gontractau achlysurol a dros dro a chontractau rhan amser.

Cynnydd 2020-2021

Bydd adolygiad o'r holl bolisïau ac arferion AD i sicrhau cymhwysiad cyfartal i staff ar gontractau dros dro a rhan amser achlysurol fel rhan o waith adfer y Cyngor yn cychwyn yn hydref 2021.

 

Cam gweithredu

Byddwn yn datblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth BAME, gan ddatblygu set o gamau gweithredu ar sail tystiolaeth gyda'r nod o wella cydraddoldeb ac amrywiaeth ymhlith gweithlu'r Cyngor.

Cynnydd 2020-2021

Yn dilyn Mae Bywydau Duon yn Bwysig - Sgwrs a gynhaliwyd gyda staff a chynrychiolwyr undebau llafur ym mis Medi 2020 fe wnaethom ddatblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r materion a godwyd.

Er bod nifer o faterion a godwyd wedi cael eu symud ymlaen, a chynhaliwyd ymgysylltiad â phobl ifanc i helpu i lywio REAP Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2020, bydd angen cyfnod hirach o amser ar eraill i symud ymlaen gan fod angen ymgysylltiad parhaus arnynt, gwaith i sicrhau newid diwylliant a cyflwyno'r cwricwlwm addysg newydd

 

Cam gweithredu

Byddwn yn gweithio i wella ein Diwylliant Corfforaethol, i sicrhau bod pob aelod o staff yn cael ei werthfawrogi a'i barchu

Cynnydd 2020-2021

Dechreuwyd ar waith mewn perthynas â nodau a gwerthoedd a diwylliant corfforaethol diwygiedig ym Mehefin 2021.

 

Cam gweithredu

Byddwn yn gweithio gyda staff i benderfynu ar yr awydd i ffurfio Fforwm Cyflogeion BAME i helpu i sicrhau bod lleisiau'n cael eu clywed

Cynnydd 2020-2021

Rydym yn parhau i weithio gyda Chadeirydd Aelodau Duon Cymru Unsain i hwyluso Fforwm/Rhwydwaith Cyflogeion BME. Daethpwyd i gytundeb iddo ddefnyddio amser cyfleusterau Unsain i helpu i gynllunio a hwyluso cyfarfod fforwm cychwynnol yn hydref 2021 gyda mynychwyr yn Mae Bywydau Duon yn Bwysig - Sgwrs, a gynhaliwyd ym mis Medi 2020.

 

Cam gweithredu

Byddwn yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant (NEETs) i'w helpu i ennill profiad a sgiliau er mwyn mynd i fyd cyflogaeth

Cynnydd 2020-2021

Er bod y pandemig a'r cyfnodau clo dilynol wedi effeithio ar waith, mae Timau Cadw mewn Cysylltiad (KIT) a Cam Nesa y Gwasanaeth Ieuenctid wedi parhau i gefnogi pobl ifanc NEET 16-24 oed i'w helpu i drosglwyddo'n effeithiol i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant cadarnhaol.

Yn ystod Ionawr i Fawrth 2021:

  • Cefnogwyd 200 o bobl ifanc, 69 o fenywod a 131 o ddynion, gyda 936 o gysylltiadau.
  • Symudodd 19 o bobl ifanc i gyflogaeth;
  • Aeth 3 pherson ifanc i mewn i Ddysgu Seiliedig ar Waith;
  • Symudodd 15 o bobl ifanc i haen fwy priodol;
  • Cafodd 71 o bobl ifanc ganlyniad llwyddiannus;
  • Enillodd 49 o bobl ifanc gymhwyster;
  • Cyfeiriwyd 17 o bobl ifanc at ddarpariaeth arbenigol am gefnogaeth

Dyfeisir cefnogaeth wedi'i thargedu ynghyd â chynlluniau gweithredu wedi'u teilwra ar gyfer unigolion, a all ddarparu cymwysterau ffurfiol fel CSCS

CCNSG, Hylendid Bwyd ac amrywiaeth o gyrsiau eraill. Mae'r ddarpariaeth hefyd yn cynnig help a chyngor i'r cyfranogwyr gyda gweithgareddau chwilio am swydd, creu CV a thechnegau cyfweliad. Mae gweithwyr ieuenctid hefyd yn darparu gweithgareddau lles, emosiynol a sgiliau bywyd, sy'n helpu'r cyfranogwyr i gyflawni eu nodau.  

Yn ogystal, mae'r tîm yn gweithio'n agos gydag ystod o bartneriaid ac mae gwaith penodol yn ystod y cyfnod hwn wedi cynnwys hyrwyddo cyfleoedd Kickstart, hyrwyddo cyfleoedd marchnad lafur lleol, darparu cymorth cyflogadwyedd rhithwir, ysgrifennu CV, llythyrau eglurhaol, ffug gyfweliadau, hyrwyddo ac ariannu dysgu ar-lein newydd a chyrsiau hyfforddi fel hyfforddiant ar-lein Flexi B a chyrsiau coleg rhithwir. Hefyd, cyflwynodd Weithwyr Ieuenctid gyrsiau ymwybyddiaeth COVID i bobl ifanc a oedd yn gwella eu CVs.

Mae Sgiliau a Hyfforddiant yn parhau i ddarparu dysgu o bell ac ar-lein i'n holl ddysgwyr ar Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau sydd ar ein darpariaeth Dysgu Seiliedig ar Waith.  Mae adolygiadau cynnydd yn cael eu dwysáu i sicrhau bod staff yn cysylltu'n rheolaidd â'r holl ddysgwyr.  Mae dysgwyr newydd sydd wedi

cofrestru'n ddi-waith trwy gydol y cyfnod hwn nad oes ganddynt fynediad at unrhyw offer digidol yn cael offer i sicrhau bod eu haddysgu a'u cefnogaeth ar-lein yn cychwyn.

Mae Cymunedau ar gyfer Gwaith a Mwy yn parhau i ddarparu darpariaeth o bell trwy alwadau ffôn, FaceTime, Whatsapp, e-byst, Teams, Zoom i'r rhai sy'n 16+ ac nad ydynt yn gymwys i gael darpariaeth Cyflogadwyedd ESF.

 

Cam gweithredu

Byddwn yn ailedrych ar hyfforddiant staff ar gydraddoldebau, gan ail-ymweld â dealltwriaeth pobl o anabledd, gan gynnwys anableddau nad ydynt yn weladwy

Cynnydd 2020-2021

Rydym yn parhau i gefnogi staff trwy gynnig ystod o gyrsiau cydraddoldeb cyffredinol a phenodol, gan gynnwys cydraddoldebau yn y gweithle; rhagfarn anymwybodol; anhwylder sbectrwm awtistiaeth; gweithio gyda phobl sydd wedi colli cof; materion trawsryweddol yn y gweithle; darparu gweithleoedd cyfeillgar i Fwslimiaid; nodi anghenion hygyrchedd a throseddau casineb.

 

Blaenoriaeth 4.2 Mae ein Bylchau Cyflog rhwng y Rhywiau yn cael eu lleihau

Cam gweithredu

Byddwn yn gweithredu Cynllun Gweithredu Amrywiaeth Rhywedd Cynllun Cyflogwyr Chwarae Teg

Cynnydd 2020-2021

Rydym yn parhau i weithredu'r cynllun gweithredu, gyda chymorth Chwarae Teg, gyda chynnydd a chamau gweithredu yn cael eu hadolygu bob chwarter.

Fe wnaethom weithredu sesiynau datblygu gyrfa ar-lein ar gyfer menywod ar gyflog is, gyda'r nod o gynyddu sgiliau a hyder. Cwblhaodd 83 aelod o staff y sesiynau:

  • Gweithio'n Ddoethach Nid yn Galetach
  • Sut i ddweud na yn wych
  • Siaradwch, Sefwch Allan
  • Newid eich meddwl, cael canlyniadau
  • Rheoli ymddygiad heriol

 

Cam gweithredu

Byddwn yn mynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y Cyngor trwy weithredu Cynllun Gweithredu Cyflogwyr Chwarae Teg

Cynnydd 2020-2021

Ers gweithredu Cynllun Gweithredu Cyflogwyr Chwarae Teg, rydym wedi gweld gwelliant yn ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Gweithlu'r Cyngor, ac eithrio ysgolion, oedd 3,630 o gyflogeion, ar 31 Mawrth 2020, gyda 1290 (35.5%) yn gyflogeion gwrywaidd a 2340 (64.5%) yn gyflogeion benywaidd.

Roedd ein canolrif y bwlch cyflog rhwng y rhywiau (y pwynt canol yn yr ystodau o gyfraddau fesul awr i ddynion a menywod - ac eithrio ysgolion) wedi gostwng i 3.44% o 3.93% yn 2019, tra bod cymedr y bwlch cyflog rhwng y rhywiau (y gwahaniaeth yn y gyfradd fesul awr ar gyfartaledd - ac eithrio ysgolion) yn 7.2% yn 2020 o'i gymharu â 9.15% yn 2019. 

Mae rhagor o fanylion i'w gweld yn yr Adroddiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2020