Beth ym ymddygiad gwrthgymdeithasol?
Unrhyw ymddygiad sydd wedi achosi, neu sy’n debygol o achosi, Aflonyddwch, Dychryn neu Ofid i un neu fwy o bobl nad ydynt yn perthyn i'r un aelwyd.
Mae sawl math o ymddygiad gwrthgymdeithasol gan amrywio o niwsans ysgafn i aflonyddwch difrifol. Gall niweidio ansawdd bywyd pobl ac ymyrryd yn eu gallu i defyddio a mwynhau eu cartref neu eu cymuned.
Dyma rai enghreifftia (nid rhestr gyflawn yw hon):
- Grwpiau meddw neu swnllyd
- Aflonddu neu frawychu
- Yfed yn y stryd
- Fandaliaeth a/neu graffiti/sbwriel
- Taflu pethau
- Niwsans sy'n gysylltiedig â chyffuriau
- Niwsans sŵn
- Ymddygiad hiliol neu homoffobig
- Ymddygiad ymosodol neu fygythiol
- Niwsans sy’n gysylltiedig â cherbydau
- Puteindra/gweithredoedd rhywiol
Rydym yn cymrhyd pob cwyn am ymddygiad gwrthgymdeithasol o ddifrif. Ein nod yw gweithredu ble bynnag y gallwn, ar yr amod bod modd cyfiawnhau hyn.